Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/474

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn bregethwr mor rhagorol, bu yn foddion i godi yr achos yn Rhiwspardyn i'r safle uchaf y bu ynddi erioed. Byddai yn pregethu yn fynych yn yr ardal, a mawr fyddai y cyrchu o'r gwahanol fanau i'w wrando. Daeth llawer at grefydd yn ein hardal yn ystod yr amser y bu yn aros yn ein plith, pa rai fuont yn addurn i grefydd hyd ddiwedd eu hoes. Hefyd, daeth Mr. Jones a llawer o ddynion da gydag ef o Sir Gaernarfon, fel rhwng pob peth, yr oedd yr aelodau eglwysig y pryd hwn o 60 i 70 o nifer."

Ond wedi i'r chwarel hon sefyll, daeth cyfnewidiad pur fawr ar yr ardal. Ymadawodd llawer o'r bobl, a syrthiodd achos crefydd eto i sefyllfa isel. Yn 1848, sef ymhen ugain mlynedd wedi adeiladu y capel, rhif y cymunwyr oedd 34; gwrandawyr, 80: Ysgol Sabbothol, 60. Ac nid oedd eu holl gasgliadau ond 7p. 14s. 6c. Tua'r pryd hwn hefyd rhoddwyd caniatad gan Gyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Dyffryn, i'r brodyr yn Rhiwspardyn i ostwng prisiau eisteddleoedd eu capel o 6d. i 4c. Nid oedd rhyddid yn yr amser gynt i gyfodi na gostwng prisiau yr eisteddleoedd, na defnyddio yr arian a dderbynid oddiwrthynt yn unrhyw fan, ond wrth reol a chyfarwyddyd y Cyfarfod Misol. Amddeng mlynedd drachefn wedi yr amser yr ydym yn son am dano, parhaodd yr achos yma yn hynod o isel ymhob ystyr, a byddai brodyr o Ddolgellau yn dyfod i fyny eto i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi ar nos Sabbothau. Nid oedd y blynyddau hyn ond un blaenor ar yr eglwys, sef William Jones, Ty'ntwll. Ond tra yr ydoedd yn hynod dywyll fel hyn ar yr achos, cyfododd gwawr o le arall. Yn ngwyneb fod llawer o eglwysi gweiniaid y sir yn dioddef oddiwrth amddifadrwydd bugeiliaeth eglwysig, a golwg wywedig arnynt, cymerodd y Cyfarfod Misol sylw difrifol a phenderfynol o'u hachos. Yr oedd Rhiwspardyn, Seion, Llwyngwril, a'r Bwlch yn cael y sylw cyntaf yn y peth hwn. Wedi i'r achos fod dan ystyriaeth am ddau neu dri mis, yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau, Tachwedd, 1857, penderfynwyd