Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/477

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crioed. Y pryd hwn, hefyd, aethpwyd ynghyd âg ail wneyd y capel oddimewn. Yr oedd dau deimlad yn bod o berthynas i'r gwaith hwn; yr hen bobl eisiau gwario dim ond ychydig, y bobl ieuainc a'r gweinidog eisiau gwneyd y gwaith yn drwyadl, costied a gostio. Methai yr hen bobl a chydweled i wneuthur dim i'r adeilad, oherwydd eu parch i "hen gapel Hugh Vaughan." Cynllun y bobl ieuaine a orfyddodd, a hwnw a droes allan y goreu o ddigon yn y pen draw. Aeth y draul oddeutu 90p. Yn 1868, cwblhawyd y gwaith, a chyn diwedd y flwyddyn hono, casglwyd yn ymyl 50p., gan adael dyled o 40p., ac ymhen dwy flynedd, cliriwyd yr oll. Y mae y capel yn awr, er nad yw yn fawr, yn gysurus a da.

Hugh Vaughan oedd y blaenor cyntaf. Yr oedd wedi ei ddewis yn Salem, Dolgellau, cyn iddo symud o'r dref, ac yr oedd efe fel Moses yn arwain yr holl eglwys o Ddolgellau i Rhiwspardyn. Efe oedd yr unig flaenor yma o'r dechreu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 8fed, 1835, yn 56 mlwydd oed. Pan adeiladwyd y capel y tro cyntaf, efe ydoedd y "pen saer celfydd" gyda'r adeilad, ac enaid a bywyd yr holl symudiad, blaenor yr eglwys, arolygwr yr ysgol, a thad yr achos yn y lle hyd ei fedd. Nid yn unig yr oedd yn gofalu am adeiladu y capel cyntaf, ond efe a weithiodd y gwaith coed a'i law ei hun: ac fe wnaeth y gwaith mor dda ac mor drwyadl fel yr oedd hyn yn ddadl gref gan lawer o bobl y lle ugain mlynedd yn ol yn erbyn ail wneyd dim ar y capel. "Colled fawr i'r achos, megis yn ei fabandod," ebe un o'i gydnabod, oedd ei golli ef, oblegid yr oedd ef yn da, yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan; yn hynod o lym yn erbyn drygau yr oes, ac yn llawn awydd am wasanaethu ei Arglwydd mewn cysylltiad â'r achos ymhob modd." Ebe un arall,—"Bydd coffadwriaeth Hugh Vaughan yn fendigedig ac yn berarogl hyfryd yn yr ardal hon am oesau i ddyfod, fel Cristion disglaer, gwyliedydd effro, llafurwr ffyddlon, ie, fel apostol Cwm yr Hafodoer."