Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/478

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Jones, Tyntwll—Bu yr eglwys am bum' mlynedd ar ol marw H. V. heb yr un blaenor. Dewiswyd W. Jones yn 1840. I'r Brithdir yr arferai fyned yn ddechreuol i addoli. ond cafodd ei anog i ddyfod i Rhiwspardyn, i ddechreu canu, a pharhaodd i arwain y canu am flynyddoedd, hyd nes y daeth Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt i arferiad. Gŵr tawel, llariaidd, tangnefeddus ydoedd. Bu pwysau yr achos yn gorphwys ar ei ysgwyddau ef mewn adeg isel ar grefydd yn yr ardal—efe oedd unig flaenor yr eglwys am ugain mlynedd lawn a diameu y gellir dweyd am dano iddo fod yn ffyddlawn yn yr holl dy. Bu farw Ionawr 25ain, 1871. Yn y Cyfarfod Misol ar ol ei farw, gwnaed coffhad parchus am dano yn y geiriau canlynol: "Rhoddid canmoliaeth uchel iddo fel Cristion a blaenor, ac un yr oedd ei ffyddlondeb wedi enill iddo air da gan bawb a'i hadwaenai; ac oherwydd ei brofiad a'i ddoethineb, edrychai ei gydnabod i fyny ato fel patriarch." Y blaenoriaid presenol ydynt, Hugh Pugh, John Jones, a Hugh Hughes. Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. Richard Evans, Harlech, bregethu. Y mae y Parch. H. Roberts, Siloh, mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys er y flwyddyn 1870.

REHOBOTH.

Un o'r lleoedd gweiniaid ydyw Rehoboth wedi bod o'r dechreuad. Er mwyn yr anghyfarwydd, yr ydys yn hysbysu y saif y capel hwn yn agos i gwr uchaf glyn cul, sydd yn ymwthio at odreu Cader Idris, rhwng Dolgellau ac Arthog. Fel taith Sabbothol, bu o'r dechreu am dymor maith mewn cysylltiad â Dolgellau; yn awr, er 1867, y mae mewn cysylltiad ag Arthog. Adnabyddid y lle cyn adeiladu y capel, a thros amser wedi hyny, wrth yr enw Hafod-dywyll, oddiwrth y ffermdy y cynhelid y moddion ynddo. Mewn cofnodiad byr a wnaed 25 mlynedd yn ol, dywedir fod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yma i ddechreu oddeutu 1800, mewn ffermdy a elwid