Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/479

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyddyn, lle yr oedd gŵr o'r enw Robert Prichard yn byw ar y pryd. A thybir mai dyfodiad William Hugh i gadw ysgol ddyddiol i'r ardal fu yn achlysur iddi gael ei sefydlu. Aeth yr ysgol i lawr, trwy i'r teulu lle y cedwid hi symud o'r ardal, ac ymddengys y bu llawer o flynyddau wedi hyny heb yr un Ysgol Sul yma o gwbl. Cynhelid hi, cyn cael y capel, yn Hafod-dywyll, lle y preswyliai John Jones, tad y Parch. Richard Jones, a ymfudodd i'r America. A dywedir y bu yn cael ei chynal am 16 mlynedd yn nhŷ tad John Jones, yn flaenorol i hyny. Yr hyn sydd yn sicr ydyw, ei bod yn cael ei chynal yn Hafod-dywyll oddeutu 1830, a'i bod yn lled liosog, oblegid fod poblogaeth yr ardal lawer yn fwy y pryd hwnw nag ydyw yn awr.

Adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn yr ardal yn y flwyddyn 1833. Dyddiwyd y weithred Tachwedd 1af, y flwyddyn hono; prydles, 99 mlynedd; ardreth, haner coron. Cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad Hydref 17eg yr un flwyddyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Cadwaladr Owen, Lewis Morris, William Jones, Edward Rees, ac Edward Foulk. Talwyd am eu gwasanaeth cydrhyngddynt 11s. 6c. Y personau fu yn gweithio fwyaf gyda'r adeiladu, cyn belled ag y gwyddis, oeddynt John Jones, Hafod-dywyll, a Lewis Evans, Tynant. Nid yw yn wybyddus pa faint oedd traul yr adeiladaeth, ond y mae sicrwydd i'r ddyled gael ei chwbl glirio yn 1839. Casglwyd tuag at hyny y flwyddyn hono 19p. 13s. 6c., a thalwyd gronfa gyffredinol i dalu dyled y capelau 70p. 13s. 4c. Oddeutu yr amser yr adeiladwyd y capel y ffurfiwyd yr eglwys. Y cyfrif cyntaf ar gael o nifer yr aelodau yw 13.

Yn 1851, eu rhif oedd 11. Yn 1860, daeth eu rhif tua 40. Cymerodd symudiadau le wedi hyny, ac aeth wyth i berthyn i Ddolgellau, wedi adeiladu ysgoldy y Penmaen. Tra yr oedd y lle yn daith gyda Dolgellau, Hafod-dywyll oedd llety y pregethwyr bob amser. O'r adeg yr ymgysylltodd âg Arthog, yn 1867, Cae Einion sydd wedi bod yn gartrefle parhaus