Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/480

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt, ac y mae y croesaw a'r caredigrwydd a geir yno yn ddigon hysbys i'r tô presenol o bregethwyr.

Erbyn hyn y mae y cyfeillion yma wedi cael capel newydd hardd a chysurus i addoli ynddo. Yr oedd yr hen gapel mewn cilfach dywyll ac oer; ni fyddai haul yn tywynu o'i fewn ddydd yn y flwyddyn. Ac un prawf o ddwyfoldeb yr efengyl ydyw, ei bod wedi gallu byw yn y fath le am 50 mlynedd. Nid gorchest fechan i eglwys mor lleied ei nifer oedd yr anturiaeth o adeiladu capel newydd. Cynhaliwyd cyfarfod o gyd-ymgynghoriad; yn hwn yr oedd tri neu bedwar am adnewyddu yr hen gapel, ond y gweddill am gael capel newydd. A'r penderfyniad i gael un newydd a gariodd y dydd. Rhoddwyd lle i adeiladu, ynghyd â darn lled helaeth o dir at fynwent, yn rhad ac yn rhodd gan ŵr o'r gymydogaeth, Mr John Griffith, Callestra, ar yr amod i'r fynwent fod yn rhydd i'r ardal yn gyffredinol. Am y weithred gymydogol a Christionogol hon, talodd y Cyfarfod Misol eu diolchgarwch gwresocaf. Cafwyd swm gwell na'r disgwyliad o addewidion yn yr ardal, a disgwylid bod yn abl i dalu haner y draul wrth agor y capel. Wedi dechreu gyda'r gwaith, pa fodd bynag, daeth cyfeillion o'r tu allan i helpu, un gyda 1p., arall 2p., arall 5p., arall 10p., ac arall gyda 15p. Ac i'w cynorthwyo i orphen, rhoddodd y Cyfarfod Misol 30p. Felly, agorwyd y capel yn gwbl ddiddyled, a theimlad y cyfeillion oedd fod llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r gwaith. Yr holl draul oedd £250, heblaw y gwaith a wnaeth y cyfeillion eu hunain gydag ef. Cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel Mehefin 9, 1884, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. W. Jones, Trawsfynydd, W. Thomas, Dyffryn, R. Evans, Harlech, H. B. Williams, Wrexham, J. Davies, Bontddu, a T. J. Thomas, Dolgellau. Yr oll yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad.

Cyfododd un pregethwr o'r ardal hon, sef y Parch. Richard Jones, Hafod-dywyll. Bu yn flaenor am ryw gymaint o amser pan yr oedd yn ddyn ieuanc. Aeth i Athrofa y Bala oddeutu