Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/482

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y capel, a chedwch y lleill at anghenion teuluaidd." Felly dyna Ragluniaeth wedi gofalu am y 5p. yr oedd yr hen Gristion wedi en haddaw mewn ffydd at achos y Gwaredwr! Gŵr hynod o dangnefeddus oedd Lewis Evans. Pan y rhoddid sen iddo, fel y rhoddir yn aml i swyddog eglwysig, ni roddai ef yr un sen yn ol. Ei air a fyddai "myned tros gamwedd yw y peth goreu." Parhaodd yn ffyddlon gyda'r achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn 1864.

John Lewis, Dyffrydan.—Yn ddiweddar bu ef yn flaenor. Er nad oedd wedi cael fawr o fanteision addysg, bu yn weithgar gyda'r achos, a chyflawnodd ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn athraw da hefyd ar y plant tra fu byw. Teimlid colled fawr ar ei ol fel crefyddwr a blaenor. Bu farw Ebrill 16, 1886. Ni chafwyd sicrwydd am flaenoriaid fuont feirw heblaw y ddau hyn. Bu Mr. Ellis Williams sydd yn awr yn Saron yn llenwi y swydd yma am rai blynyddau. Yr unig un yn y swydd yn awr ydyw y blaenor gweithgar ac adnabyddus, Mr. David Evans, Cae Einion.[1] Y mae yr eglwys y flwyddyn hon, mewn undeb â Sion, wedi rhoddi galwad i Mr. John Wilson Roberts, o Arfon, i'w gwasanaethu yn yr efengyl.

ABERGEIRW.

Lle neillduedig ac anghysbell ydyw Abergeirw. Saif rhwng y bryniau moelion, oddeutu 10 milldir o Ddolgellau, a 7 o Drawsfynydd. Oherwydd fod yr ardal, a'r cymoedd cylchynol, hyd yn nod yn yr hen amser, allan, fel y dywedir, o'r byd, yr oedd y trigolion o dan anfantais fawr i gael na diwylliant, na dysg, nac efengyl. Er hyny eyrhaeddodd swn yr efengyl yma yn lled foreu, o leiaf yn nyddiau Mr. Charles. Y mae hanesyn neu ddau ar gael sydd yn profi pa mor dywyll oedd y bobl ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Roberts, Brynygath—yr hwn a fu farw mewn oedran teg tua 25 mlynedd yn ol—

  1. Mae yn wybyddus erbyn hyn fod Mr. David Evans wedi cael rhybudd gan ei feistr tir i ymadael o'i gartref, lle y bu yn preswylio am 35 mlynedd.