Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/483

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ŵr geirwir a chrefyddol. Can fod ei rieni yn barchusach na'r cyffredin yr oedd ef wedi cael ychydig o ysgol, a medrai ddarllen. "Yr oeddwn yn 14eg oed," ebe yr hen ŵr, "newydd ddyfod adref o'r ysgol, ac mewn wylnos yn Tyddynmawr. oedd yno lon'd y tŷ o bobl, ac ni fedrai neb o honynt ddarllen. Disgwylid i'r clochydd ddyfod yno i gadw yr wylnos, ond ni ddaeth. Erbyn hyn yr oeddynt mewn penbleth, gan na fedrai neb yn y lle ddarllen. Wedi hir ddisgwyl, dywedai rhywun oedd yn y tŷ, Mae fan yma fachgen yn medru darllen. A bu raid i mi fynd ati hi i ddarllen fy hun, er nad oeddwn ond 14 oed, a dyna y gwaith cyhoeddus cyntaf a wnes i."

Hanesyn arall y byddai yr hen ŵr, E. R., yn dra hoff o'i adrodd ydoedd am Mr. Charles yn pregethu ar y llechwedd, o flaen tŷ Brynygath. "Yr wyf yn cofio," ebai-gyda'i lais crynedig, a'i ddull arafaidd o siarad yr wyf yn cofio cystal a dim, Mr. Charles yn pregethu o flaen y tŷ yma, ar ddiwrnod teg yn yr haf. Ei fater oedd, Iesu Grist yn dysgu Nicodemus am ail-enedigaeth. Yr oedd llawer wedi dyfod ynghyd o ryw lainau o'r cymoedd rhwng yma a Llanfachreth, ac oddiwrth Drawsfynydd, a'r rhai hyny yn gwrando ar eu lled-orwedd ar yr ochr o flaen y tŷ yma. Yr oeddwn inau yn hogyn wedi myned y tu ol iddynt. A phan oedd Mr. Charles yn dweyd fod yn rhaid geni dyn drachefn, 'Glywi di, glywi di,' ebai y llancian with eu gilydd, y dyn yn dweyd fod yn rhaid geni dyn ddwywaith." Adroddai yr hen ŵr yr hanes uchod gyda blas a dyddordeb, a barai i chwi deimlo wrth ei wrando ei fod ef ei hun yn argyhoeddedig ei fod bob tro yn traethu gwirionedd newydd i'r oes bresenol am yr oes o'r blaen. Ac yr oedd yn hoff iawn o son am Mr. Charles hyd ddiwedd ei oes. Bob tro yr ymwelid ag ef, byddai ganddo rywbeth i'w adrodd am dano. Yr oedd E. R. ei hun hefyd yn hen bererin o'r iawn ryw.

Ar ol y bregeth uchod, meddir, gofynai Mr. Charles i ŵr y tŷ, "Oes yma ddim lle y gallwn anfon dyn yma i gadw ysgol?" "Ryfeddwn i ddim nad oes," atebai ynta, "yn