Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/484

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brynygath Isaf yma." Cytunwyd y pryd hwnw am y lle, a'r gauaf canlynol, sef yn y flwyddyn 1790, yr oedd John Ellis, Abermaw, yno yn cadw ysgol. Bu Lewis Morris, yr hen bregethwr hynod, yno gydag ef yn yr ysgol am ychydig y flwyddyn hono. Y flwyddyn flaenorol y cawsai y gŵr hwn ei argyhoeddi mewn modd anghyffredin, wrth ddychwelyd adref o races ceffylau, o Fachynlleth. "Aethum," ebe L. M. ei hun, "y Calanmai canlynol, at y dywededig John Ellis, o'r Abermaw, i Frynygath, Trawsfynydd, lle yr oedd efe y pryd hwnw yn cadw ysgol ddyddiol, a bum yno am dair wythnos; a dyna y pryd y dysgais ddarllen fy Meibl." Hynod iawn fel y mae y byd wedi newid! Lewis Morris oedd y pregethwr cyntaf, oddieithrun neu ddau, gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd. Cafodd dair wythnos o ysgol! Ac aeth i Frynygath, y lle mwyaf rhamantus, anhygyrch, ac anghysbell o un man yn Sir Feirionydd, i gael hyny o ysgol! Adroddai un o feibion Brynygath wrthym, wedi clywed ei fam yn adrodd am dano yn cyraedd yno y tro cyntaf, ei fod yn gwyro hyd ei haner wrth fyned i mewn i'r tŷ (oblegid yr oedd yn fwy o gorffolaeth nag odid neb yn y wlad), ac yn cyfarch y teulu fel hyn, "Lewsyn, Coedygweddill, ydw'i; 'rydw i wedi dyfod yma i'r ysgol at Sion Ellis, ac yn dyfod atoch chwi, i edrych a gaf fi lodgings." Nid oedd yn medru y llythyrenau pan yr aeth yno. Byddai yn myned at John Ellis, yr athraw, i ofyn am eglurhad beunydd—"Be ydi hon?—be ydi hon?"-gan gyfeirio at y llythyrenau, nes blino yr athraw yn fawr. "Paid a'm rhwystro io hyd, Lewis," ebe yr athraw; "rhaid i mi roi gwersi i'r plant yma. Cymer yr eneth fach yna—sef geneth R. R., Gelligan—ar dy lin; fe ddysga hi y llythyrenau i ti." Felly fu. Yr eneth fach yn eistedd ar ei lin a ddysgodd iddo y llythyrenau.

Y mae gwahanol adroddiadau am yr amser a'r lle y pregethwyd y bregeth gyntaf yn yr ardal. Ond nid ydyw hyny yn llawer o bwys erbyn hyn. Lled debygol mai William Evans,