Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/485

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fedw Arian, a fu yn pregethu yma gyntaf, a hyny, mor agos ag y gellir gweled, rhyw chwech neu saith mlynedd cyn i Mr. Charles fod yn pregethu y bregeth ar ail-enedigaeth yn Mrynygath. Modd bynag, Brynygath oedd cartref cyntaf yr achos. Mae yr enw, i fesur, yn anadnabyddus yn awr, ond yn nechreuad Methodistiaeth yn y sir, bu yn dra hysbys dros lawer o. flynyddoedd. Ffermdy ydyw, oddeutu milldir o Abergeirw, i gyfeiriad Trawsfynydd, ar lechwedd uchaf ceunant rhamantus, trwy yr hwn y rhed yr afon Mawddach i lawr i'r Ganllwyd. Yr ochr arall i'r ceunant y mae Cwmhwyson, neu fel y swnir ef gan y cymydogion, Cwm-eisian, lle genedigol y Parchedig. W. Williams, o'r Wern. Yr oedd mam Williams yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn Brynygath neu Llanfachreth, oddeutu 1790. Gellir casglu oddiwrth hyn, a phethau. eraill, fod yn y tŷ hwn eglwys wedi ei ffurfio o gylch y flwyddyn hon. O fewn tair milidir i'r lle hwn drachefn, ar y ffordd i Drawsfynydd, y mae Penystryd, lle yr oedd capel wedi ei adeiladu, ac eglwys wedi ei sefydlu gan yr Annibynwyr, yn niwedd y flwyddyn 1789. Erys yr adeilad hwn hyd heddyw, a golwg hynafol tuhwnt i fesur arno. Yn Brynygath y bu cartref yr achos, sydd yn awr yn Abergeirw, am o leiaf ddeugain mlynedd. Yr oedd adeilad yn agos i'r tŷ a clwid Tynant, wedi ei ddarparu yn briodol i gynal y moddion ynddo. Yr oedd traddodiad flynyddau yn ol mai yn Brynygath y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn Nghymru. Ni chafwyd digon o sail i brofi hyn, er ei bod hi wedi dechreu yma yn bur sicr yn foreu iawn. Yr oedd yr hen deulu a breswyliai yma yn barchus o grefydd. Yr oedd gwraig Evan Roberts, y crybwyllwyd am dano, hefyd, yn chwaer i wraig gyntaf Dafydd Rolant, y Bala, ac yn ferch i Nantbudr, Trawsfynydd. Perthyn i'r un teulu, hefyd, yr oedd teulu Neuadd-ddu, Blaenau Ffestiniog, le bu achos crefydd yn cartrefu am dymor cyflelyb o ddeugain mlynedd yn yr un cyfnod. Yn. Nyddlyfr Lewis William, yn 1825, nid oes dim son am Aber-