Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/486

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geirw. Y daith Sabbath oedd, "Brynygath, Cwmprysor, a Trawsfynydd."

Lle arall o hynodrwydd gyda chrefydd yn yr ardal ydyw Brynllin Fawr. Cymerodd digwyddiad le yma, ar gychwyniad crefydd, a ddengys fel yr oedd yr efengyl yn swyno hyd yn nod erlidwyr yn y cyfnod cyntaf o bregethu yn Nghymru. Er myned i wrando gyda'r bwriad yn unig o wawdio ac erlid, enillai yr efengyl aml un trwy y swyn a berthyn iddi. "Digwyddodd yn y modd yma i fab Brynllin Fawr, dan weinidogaeth William Evans [Fedw Arian]. Rhoddasid rhybuddion mynych i'r llanc nad elai yn agos atynt, oddieithr i'w lluchio, ond ar bob cyfrif nad äi byth i'w cynulliadau i wrando pa beth oedd ganddynt, onidé y gellid sicrhau iddo mai ei ddal a wneid gan y swyn. Anturio, pa fodd bynag, a wnaeth y bachgen i fyned at ryw lidiart, digon agos i glywed y sŵn, ond, ar yr un pryd, digon pell i brofi nad oedd ef yn un o honynt, nac yn chwenych cael ei swyno ganddynt. Ond wrth y llidiart hwn clywai lais y pregethwr, a disgynodd y gwirionedd ar ei gydwybod, nes oedd iasau brawychlyd yn ei gerdded; meddyliodd yn ei galon mai gwir a glywsai am y swyn a ddaliai y rhai a'u gwrandawent, a dywedai, Dyma fi wedi fy swyno.' Yn y canlyniad fe droes allan felly. Enillodd yr efengyl galon y llane, a dilynodd Fab Duw, er gwaethaf pob gwrthwynebiad, o hyny allan."—Methodistiaeth Cymru, I. 517. Brawd crefyddol sydd yn awr yn fyw a dystiolaetha i'r llanc hwn barhau yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn Penystryd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le o gylch 1820. Ychydig amser cyn adeiladu y capel symudwyd yr achos yn gwbl oll o Brynygath i Brynllin Fawr. O hyny allan, am o leiaf 50 mlynedd, pwy o bregethwyr y rhan yma o'r sir sydd heb wybod am garedigrwydd Brynllin a Pantglas? Abergeirw Fawr hefyd a wnaeth ei ran yn dra chanmoladwy i groesawu yr achos yn yr ardal neillduedig hon, yr holl flynyddoedd hyn. Dywed y Parch. Richard Jones, Bala, yr hwn yn lled debyg oedd yn