Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/487

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir ar y pryd, wrth roddi rhestr o'r teithiau yn y Drysorfa am 1836, fod capel Abergeirw yn cael ei adeiladu y flwyddyn hono. Bu peth dadl ynghylch y lle priodol i'w adeiladu. Dadlenai rhai am ei gael ar ben y banc, yn ngolwg Cwm Blaenglyn, er mantais i'r ddau gwm. Dadleuai Harri Puw, o Brynllin, am iddo fod yn y lle y mae. Adeiladwyd ef yn y pant-le, ar lan yr afon, lle digon oer yn y gauaf, ac yn ddiarebol am y pethau a elwir "gwybed bach" ar degwch yn yr haf. Saif ar dir Abergeirw, ffermdy o ba le y cafodd ei enw. Pregethwyd ar ei agoriad gan y Parchn. Richard Roberts, Dolgellau, Dafydd Rolant, Llidiardau, a Dafydd Davies, warch. Talwyd am ei adeiladu ar ei agoriad, neu yn fuan wedi hyny. Tlodaidd a llwydaidd oedd yr olwg arno hyd oddeutu 1873, pryd y cafodd ei adnewyddu. Yr oedd y Parch. Owen Roberts, Llanfachreth, yn flaenllaw yn hwylio y gwaith hwn ymlaen. Deuai amcangyfrif o'r draul i o gwmpas 80p., a gofynwyd i Mr. Wood, boneddwr oedd newydd brynu tyddyn yn yr ardal, am ei ewyllys da at yr achos, yr hwn, gyda pharodrwydd, a addawodd y gwnai y diffyg i fyny wedi iddynt orphen casglu eu hunain. Casglwyd gan bobl y lle 59p. Pan glybu y boneddwr hyn, anfonodd 21p. ar unwaith, gan ddywedyd ei fod yn ei theimlo yn fraint cael eu cynorthwyo. Mae y capel bellach yn ddestlus a chyfforddus. Gwnaeth yr adnewyddiad lawer o les. Mae y bobl wedi bod yn ddedwydd yn eu gweithred; bywhaodd a siriolodd eu hysbryd. Trwodd a thro, ni bu yr achos a golwg mwy siriol arno erioed nag y mae wedi bod y blynyddoedd diweddaf. Erys y gymydogaeth heb fod ryw lawer na mwy na llai ei phoblogaeth. Deugain mlynedd yn ol, rhif y gwrandawyr oedd 50, a'r cymunwyr ychydig dros 20. Eleni, mae y naill a'r llall yn lliosocach, er fod cyfran helaeth o gynulleidfa ac aelodau Hermon wedi eu tynu ar ol hyny oddiwrth Abergeirw. Eglwys yn y mynydddir ydyw hon, yn hollol felly, ac y mae yn rhaid mewn un