Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/489

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac wrth gyfrif yr arian gyda'i fam, ar ol cyraedd adref, yr oeddynt yn fwy o haner coron na phris y croen. Pa fodd bynag yr oedd hyny wedi digwydd, eredai ef yn sicr mai Rhaglun— iaeth oedd wedi dwyn hyny oddiamgylch, er mwyn iddo gael ychydig i dalu i'r pregethwr. Yr oedd Silvanus Jones yn ddyn duwiol, a nodedig o afaelgar mewn gweddi. Byddai arferol a dyfod o Beddcoedwr i'r Hendre i gadw cyfarfod gweddi bach, h.y., cyfarfod gweddi y merched. Symudodd trwy briodi i fyw i Brynllin, a daeth trwy hyny yn fwy cefnog ei amgylchiadau. Dysgai dylwyth ei dy i fod yn grefyddol, ac ni chai neb o'i holl wasanaethyddion fod yn esgeuluswyr. Yr oedd wedi ymroddi gorff ac enaid i wasanaethu crefydd. Dilynai y Cyfarfodydd Misol a'r Sasiynau, o'r lle pellenig yr oedd yn byw ynddo, gyda chysondeb. Bu farw, Ebrill 20fed, 1854, yn 60 mlwydd oed.

Griffith Jones, Hafodowen.—Gŵr tawel, arafaidd, deallus, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn ysgrifenydd yr eglwys am flynyddau, a chadwai y cyfrifon yn fanwl a threfnus. Rhagorai fel un medrus yn yr Ysgol Sul, ac i ddysgu plant. Medrai ef ddysgu rhai na fedrai neb arall eu dysgu, a gwnaeth ddaioni mawr gyda hyn. Wedi cerdded llawer i Abergeirw, cafodd fyw i weled capel Hermon wedi ei adeiladu yn ymyl ei gartref. Bu farw, Ebrill 10fed, 1870, yn 59 oed.

David Williams, Abergeirw. Gwasanaethodd swydd diacon am 40 mlynedd. Dewiswyd ef gyntaf yn Cynllwyd, ger Llanuwchllyn, a bu yn y swydd yno am saith neu wyth mlynedd, a'r gweddill yn Abergeirw. A dywedir am dano, iddo lenwi y swydd yn anrhydeddus. Disgynodd cyfrifoldeb y gwaith arno ef ar ol Silvanus Jones. Yr oedd yn un o'r cymeriadau goreu yn y wlad. Dyn tawel, distaw, caredig, diymhongar, boneddigaidd, a hawdd ei drin; anaml ei eiriau, ac yn barotach i roddi eraill ar y blaen nag i gymeryd y blaen. ei hun; er hyny yn meddu barn dda, ac yn alluog i siarad ar unrhyw bwne. Cariai ddylanwad mawr trwy ei ddistawrwydd.