Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o Sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn; ond nid oes yma, er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt." Rhyw bymtheg, neu ugain mlynedd o bellaf, oedd y blaen a gawsant. Mae yr hyn a ddywedir yn y dyfyniad uchod yn eithaf cywir, sef fod y rhan yma o'r wlad wedi bod yn hwy heb gael ei darostwng tan ddylanwad yr efengyl na'r rhanau eraill o'r wlad o amgylch.

Yr ydys yn gallu nodi yn lled sicr fod y deffroad crefyddol, trwy y Diwygiad Methodistaidd, wedi dechreu yma oddeutu y flwyddyn 1785. Nid yn hollol y flwyddyn hono y dechreuwyd pregethu, fel y ceir gweled eto, ond oddeutu y flwyddyn hono y dechreuodd y pregethu amlhau yn y gwahanol ardaloedd. Mae y dechreuad yn cyfateb i'r prif ddigwyddiad hanesyddol mewn cysylltiad a chrefydd yn ein gwlad—blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Cwestiwn i'w ofyn yn naturiol yn y fan yma ydyw, Pa fodd y bu rhan gyfan o wlad Meirion mor hir heb ei deffro trwy y Diwygiad? Yr oedd dros ddeugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oedd Howell Harries wedi dechreu cynhyrfu Cymru. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Sir Drefaldwyn a'r Bala yn union ar ol iddo ddechreu; bu ef a Daniel Rowlands, Llangeitho, ar ymweliad a'r Gogledd amryw weithiau; yr oedd teithio mawr wedi bod gan enwogion y Methodistiaid o'r De i'r Gogledd; nid oedd yr un sir yn Nghymru heb deimlo nerth yr efengyl cyn pen ychydig wedi i'r tân ddechreu cyneu yn Nhrefecca a Llangeitho. Yr oedd rhanau helaeth o Sir Feirionydd ei hun wedi ei goddeithio, a phump o gapelau wedi eu hadeiladu ynddi cyn y flwyddyn 1785. Ac eto, dyma y rhan agosaf i'r Deheudir