Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/490

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Misol a chynulliadau eraill. Bu farw Medi 14eg, 1879, yn 70 mlwydd oed.

Y Parch. Morris Roberts, Brynllia. Gwasanaethai gydag ewythr iddo yn Brynllin, ac wrth yr enw Morris Roberts, Brynllin, yr adnabyddid ef bob amser. Cyn ei argyhoeddi yr oedd yn ddyn ieuanc direidus, a doniol. Tra yn Llanuwchllyn, yn was mewn ffermdy, adroddai bregethau, ac adnodau, ac intertudiau bob yn ail. "Yn wir, Morris." ebai gwr y tŷ wrtho, "pe cait ti ras, ti wnaet bregethwr da." Ar ol hyn, ac efe yn gwasanaethu yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1818, argyhoeddwyd ef mewn modd anghyffredin o rymus wrth wrando y Parch. D. Rolant yn pregethu yn Buarthyrê. Ymhen ychydig dechreuodd bregethu ei hun. Bu yn cadw ysgol ddyddiol, ar ol priodi, a dechreu pregethu, yn llofft Pantglas, yn yr ardal hon. Aeth wedi hyn i fyw i rywle islaw y Bala. Daeth i gael sylw cyhoeddus mewn cysylltiad â'r dadleuon duwinyddol a gynhyrfai y wlad yr adeg hono. Cyhuddwyd ef o fod yn gogwyddo at yr hyn a elwid System Newydd, sef coleddu syniadau rhy cang am Iawn Crist. Bu ei achos yn cael ei drafod yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1828, a Chymdeithasfa Caernarfon, Medi yr un flwyddyn. Ni chafwyd dim o bwys yn ei erbyn, ac felly syrthiodd yr achos i'r llawr. Ymfudodd i'r America, ac ymunodd â'r Annibynwyr. Nis gallwn fod yn sicr o'r achos iddo ymfudo, nac ychwaith o'r achos iddo ymuno â'r Annibynwyr. Yr oedd yn America cyn 1831, oblegid yn Hydref, y flwyddyn hono, y mae y Parch. John Jones, Talsarn, yn ysgrifenu llythyr at ei frawd, y Parch. David Jones, i Lundain, yn yr hwn y dywed,"Derbyniais lythyr maith o'r America, oddiwrth ein brawd, yn fy hysbysu fod Morris Roberts wedi cael y derbyniad caredicaf, a chael cymorth amgylchiadol, ac hefyd ei ordeinio i'r swydd efengylaidd yn gyflawn." Talodd ymweliad â'r wlad hon oddeutu ugain mlynedd yn ol. Y mae yntau wedi gorphen ei yrfa er's o gylch pedair blynedd.