Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/491

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HERMON.

Enw diweddar ydyw hwn a gafodd yr ardal, pan yr adeiladwyd y capel ynddi, ychydig dros ugain mlynedd yn ol. Safle yr ardal ydyw oddeutu haner y ffordd rhwng Llanfachreth ac Abergeirw. Mae y tri lle hyn ar linell union, ac yr oedd y tri. er pan adeiladwyd Abergeirw yn un daith Sabbath, hyd 1870, pryd yr aeth Abergeirw a Hermon ar eu penau eu hunain, gan adael i Lanfachreth ymgysylltu yn daith gyda Carmel. Teneu a gwasgaredig yw y boblogaeth, a dyna yn ddiau yr achos y buwyd cyhyd heb adeiladu capel yn y lle.

Y moddion crefyddol cyntaf yn yr ardal oedd yr Ysgol Sul. Y lle y dechreuwyd ei chadw oedd, Tyddyndu Bach. Dechreu-- wyd hi yn fuan wedi dechreu y ganrif hon, ar ol i'r ysgol wreiddio yn Llanfachreth, a dygid hi ymlaen o dan aden ychydig gyfeillion yno. Elai un neu ddau o frodyr o Lan- fachreth i Tyddyndu Bach bob Sabbath i helpu i gynal yr ysgol. Hugh Pagh, Tanyfoel, oedd un o'r ddau a fyddai yn myned yno fel hyn yn zelog a chyson. Ymhen amser, darfu yr ysgol yn y tŷ hwn, ac nid oedd yr un yn cael ei chynal am dymor yn nghwm Blaenglyn, ond byddai ambell un yn dyfod i lawr oddiyno i ysgol Llanfachreth.

Dau led cae uwchben capel Hermon, yn ngodre y bryn uchel sy'n ymgodi i fyny tua'r gogledd, y saif Buarthyrê, ffermdy tawel, clyd, hynafol yr olwg arno. Bu y lle yn enwog am ysbaid o amser mewn cysylltiad â chrefydd. "Bum am ychydig o amser," ebe Lewis William, " yn cadw ysgol ddyddiol, nosawl, a Sabbothol, mewn lle arall yn y plwyf, a elwir Buarthyrê, mewn ysgubor, ac yr oedd yno deulu caredig iawn yn byw. Yr oedd yr un arferion llygredig yn cael ym-- arfer â hwynt yn y gymydogaeth hon ag oedd yn y lle arall (Llanfachreth) yn y plwyf, ond yr oedd effaith yr ysgol oedd yn yr hen dŷ wrth y Llan wedi cyraedd yma i raddau mawr, i ddarostwng yr arferion annuwiol. Bu yma Ysgol Sabbothol