Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/493

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar Dafydd Rolant fel ei dad, ac ar Dafydd Cadwaladr fel ei daid yn y ffydd, ac yr oeddynt yn hynod hoff o'u gilydd yn wastad; a degau eraill heblaw ef a argyhoeddwyd yn yr odfa hono, y rhai a fuont yn grefyddwyr da ar hyd eu hoes. Aethom i Lanfachreth at y nos, a chryfhau yr oedd y cynhyrfiadau yno. Dyna y Sabbath y dechreuodd y diwygiad mawr a fu yn Nhrawsfynydd a Llanfachreth, ac efe a gafodd y fraint i fod yn offeryn i'w gychwyn, yn y lleoedd uchod yn arbenig. A chan nad oedd gan y Methodistiaid y pryd hwnw un lle i gynal cyfarfodydd eglwysig yn yr ardaloedd hyn, ymunai y dychweledigion â'r eglwys gyda'r Annibynwyr; cwynai wrth hyn, a dywedai nad âi ef ddim i bysgota heb yr un cawell byth ond hyny." Yr oedd eglwys yn Brynygath y pryd hwn, ond nid oedd yr un capel yn yr holl gymoedd rhwng Llanfachreth a Thrawsfynydd, ond capel yr Annibynwyr yn Penstryd. At hyn y cyfeirir yn ddiau, oblegid hysbysir ddarfod i'r eglwys yn Mhenstryd gael llawer o ychwanegiad y flwyddyn hono. Llawer o bethau rhyfedd a ddigwyddasant yn y cymoedd gwledig hyn yn ystod y diwygiad grymus y blynyddoedd uchod, a hyny yn benaf trwy weinidogaeth danllyd y llanc o Gwmtylo, wedi hyny y patriarch o'r Llidiardau. Gwnaeth yr odfeuon nerthol y cyfeiriwyd atynt argraff ddofn ar feddwl D. Rolant ei hun hefyd. Aeth yn fuan i'r ysgol at y Parch. J. Hughes, Gwrecsam, a gwneir y crybwylliad canlynol am dano yno, "Pan yn Ngwrecsam, ei hoff bwnc oedd son am y pryd y dechreuodd bregethu, a'r manau yr âi iddynt. Soniai lawer am Cwmtylo, y Trawsgoed, a Buarthyrê, am yr odfaon llewyrchus, y gorfoleddu, a'r molianu oedd yn dilyn, &c.; a soniai gymaint am Buarthyrê, fel y gwnaeth un o honynt— clywsom mai yr athraw ei hun oedd-benillion ar yr achos, ar yr hyd Mentra Gwen,' yr hwn yr oedd yn hoff' o hono. Yn y penillion sonid am lawer o bethau, a'r byrdwn oedd— 'Buarthyrê, Buarthyrê'." A bu ymhen llawer o flynyddoedd, a Dafydd Rolant yn nhaith