Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/495

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofyn un ffafr genych, sef cael Ysgol Sul yn y cwm yma." "Wel, peth da iawn ydyw Ysgol Sul," atebai y goruchwyliwr. "Mi treiaf i hi," ebe S. R., "os rhoddwch chwi rybudd i mi cyn rhoi drwg i mi." "Gwnaf, gwnaf," oedd yr ateb. Felly fu, cafodd yr achos dderbyniad croesawgar i'w dŷ ef. Dros ryw dymor yn flaenorol, o dan y dderwen, wrth adwy y dŵr, ychydig islaw yr Hendre, yr arferid a phregethu, a byddai Sion Robert, yn ymorchestu tipyn weithiau ei fod ef wedi dwyn yr efengyl i dŷ. Yn yr Hendre y bu yr achos am 40 mlynedd llawn. Cynhelid y pregethu a moddion eraill yn y tŷ yn y gauaf, ac yn y beudy yn yr haf. Da y cofia y tô o bregethwyr oedd yn y sir amser yn ol, am y beudy wrth ochr y ffordd, ac am S. R. yn cario y Beibl a'r Llyfr Hymnau o tan ei gesail, ar hyd y cae i'r beudy at y bregeth ddau o'r gloch y Sabbath. Byddai yn yr Hendre groesaw calon i'r pregethwr, a chymerid yno ddyddordeb mawr yn achos crefydd yn y sir yn gyffredinol. Byddai y chwiorydd yn y lle hwn yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio. Dechreuodd hyny trwy i Sion Robert, pan nad oedd yno ddigon o ddynion i gynal y cyfarfod gweddi, un nos Sul, ofyn yn gyhoeddus, "Oes yma neb o'r chwiorydd a wnaiff ledio penill?" Fe wnaeth un o honynt yn union ar hyn o gymhelliad, ac ar ol y tro hwn daeth yn arferiad yn y lle.

O'r diwedd, daeth yr amser i gael capel yn yr ardal. Adroddir am un peth lled ryfedd mewn cysylltiad â'r llanerch lle y cyfodwyd ef. Yn y diwygiad diweddaf, byddai pobl dau gwm, wrth ddychwelyd adref o'r moddion o Lanfachreth, cyn y llecyn lle saif y capel yn awr y gwneid hyn. Yn hanes Cyf- arfod Misol Medi, 1863, yr ydym yn cael yr hyn a ganlyn,- ymwahanu yn cynal cyfarfod gweddi yn yr awyr agored, ac ar "Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn cyflwyno ein diolchgarwch i'r Anrhydeddus T. P. Lloyd, Pengwern, a John Vaughan, Ysw., Nannau, am eu caredigrwydd yn rhoddi am ddim ddarn o dir i adeiladu capel yn mhlwyf Llanfachreth.