Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/496

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penderfynwyd hefyd, yn mhellach, ein bod yn ymddiried i'r Parch. Owen Roberts, a Mr. G. Roberts, Tyn'twll, i ddwyn oddiamgylch yr hyn sydd angenrheidiol i gwblhau y capel uchod." Pregethwyd ar ei agoriad gan y Parchn. W. James, B.A., Aberdyfi; D. Davies, Abermaw, a D. Evans, M.A., Dolgellau. Aeth y draul i'w adeiladu, ynghyd â'r tŷ a'r adeiladau oddiallan, a chau o'i amgylch, dros 300p. Bu y Cyfarfod Misol yn helpu i dalu rhyw gymaint o'r ddyled flynyddau yn ol, ond y mae yn aros o ddyled eto, 145p. Y flwyddyn y sefydlwyd yr eglwys gyntaf, yr oedd ei rhif yn 22, mwy o bedwar nag Abergeirw, y fam eglwys. Nid oes yma, er's amser bellach, ond un blaenor rheolaidd, sef William Jones, Bwlchrhoswen. Dewisodd yr eglwys bedwar o frodyr eraill flynyddau yn ol, ond oherwydd rhyw amgylchiadau, ni ddaeth y brodyr hyn ymlaen i gael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, yr hyn yn ddiau sydd wedi bod yn dipyn o atalfa ar lwyddiant yr eglwys. Ond teg yw hysbysu, er hyny, i rai o'r brodyr a etholwyd fod yn weithgar gyda'r achos trwy lawer o anfanteision. Un bregeth y Sabbath a fyddai yn arfer a bod yma, ond er y flwyddyn 1870, maent yn cael dwy bregeth bob yn ail ag Abergeirw. Bu yr un gweinidogion mewn cysylltiad gweinidogaethol yma ag a fu mewn cysylltiad â Llanfachreth ac Abergeirw, ac am yr un tymor. Y mae coffadwriaeth y diweddar Barch. O. Roberts yn barchus iawn yn yr ardal. Bu ef ar hyd ei oes yn dra ffyddlon i'r achos, ac efe oedd a'r llaw benaf mewn adeiladu y capel.

Evan Ellis. Ymunodd ef â chrefydd yn ieuanc, a gwasanaethodd y swydd o flaenor am 29 mlynedd, y rhan gyntaf a hwyaf yn Abergeirw, ac wedi hyny yn Hermon. Yr oedd llawer o hynodrwydd a rhagoriaethau ynddo. Yr oedd yn brydlon i ddyfod i foddion gras, a byddai ynddynt yn gyson; pwy bynag fyddai yn absenol, byddai ef yn bresenol trwy bob. rhwystrau. Ei garedigrwydd, ei zel, a'i wresowgrwydd gyda chrefydd oeddynt yn amlwg iawn. Gweithiodd ei ddiwrnod