Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/498

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Vaughan, Ellis Williams, ac Evan Davies, i gyfarfod yno nos Sadwrn nesaf, gyda blaenoriaid Llanfachreth, i geisio cael pethau i derfyniad."

Yn Hanes Methodistiaeth Corris, ceir y paragraff canlynol: "Yn ardal Carmel, gerllaw Llanfachreth, yr oedd dymuniad am gapel; ond yr oedd y tir oll, oddieithr fferm Ystumgwadnau, yn eiddo i foneddwr a lywodraethid gan y teimladau mwyaf gelynol at Fethodistiaeth. Eiddo David Evans oedd y fferm uchod; ac er gwaethaf pob dylanwad i'r gwrthwyneb, rhoddodd dir i adeiladu capel arno; a'r capel hwnw yw Carmel. Capel Ystumgwadnau' y gelwid ef ar y cyntaf; ond un tro, pan oedd y diweddar Barchedig John Williams, Llecheiddior, yr hwn a breswyliai ar y pryd yn y gymydogaeth, yn pregethu ynddo, gyda grym neillduol, ar 'Elias ar ben Carmel, dywedodd, yn nghanol ei hwyl, yr wyf yn dymuno i'r lle gael ei alw yn 'Carmel' tra byddo yma gareg ar gareg o hono. A thra phriodol yw yr enw, ar gyfrif uchelder y lle y saif y capel arno.".

David Evans, y Ddolgoed, Aberllefeni, oedd y gŵr a wnaeth y gymwynas hon i achos crefydd, trwy roddi tir i adeiladu capel Carmel arno. Yr ardreth flynyddol oedd wyth swllt, ac oddeutu tair blynedd yn ol, cyflwynodd un o berthynasau y gwr da hwn y tir yn rhodd i fod yn feddiant i'r achos. Rhwng y capel â'r tŷ aeth y drauli adeiladu i oddeutu 160p. Gan nad oedd y bobl ond tlodion buwyd yn hir cyn gorphen talu y ddyled, a dywedir fod agos gymaint o log wedi ei dalu a swm y draul o adeiladu. Ni wyddis yn iawn pa faint o gynorthwy a dderbyniasant o'r tu allan i'r ardal, ond sicr ydyw iddynt dderbyn rhai symiau. Yn Rhagfyr 1851, daeth cwyn o Carmel, trwy Mr. Griffith Roberts, i'r Cyfarfod Misol yn herwydd dyled y capel, a gofynent am gynorthwy, a'r hyn y penderfynwyd arno yn y Cyfarfod Misol hwnw oedd, fod i gyfeillion Dolgellau eu hanrhegu â 10p. a'r Dyffryn â 5p. Yr unig gyfnewidiad a wnaed ar y capel, yr ydym yn tybio, o'r