Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb i'r tân wneuthur dim o'i ôl arni, a buasid yn meddwl mai trwy y rhan yma yr oedd y dramwyfa barhaus o'r naill dalaeth i'r llall. Gymaint, hefyd, o dramwyo oedd o'r Gogledd i Langeitho, i wrando Rowlands, ar Sul pen mis; elent yno yn finteioedd o'r Bala, o Sir Fon, a Sir Gaernarfon, a hyny er's yr holl flynyddoedd yn flaenorol i 1785; a buasem ni, yn yr oes hon, yn tybio mai trwy y rhan yma o'r wlad y buasai yr holl dyrfaoedd yn tramwyo, yn ol a blaen. Pa fodd, gan hyny, y bu y tân Dwyfol mor hir heb gyffwrdd â'r rhan hon o'r sir? Buom yn cael ein dyrysu gryn lawer gan y mater hwn, ac yr ydym i fesur eto yn y dyryswch. Modd bynag, mae rhyw gymaint o eglurhad i'w roddi dros y ffaith mai fel hyn yr oedd. Yn un peth, mae yn bur eglur mai trwy gyfeiriad arall yr oedd y rhan fwyaf o'r teithio rhwng De a Gogledd, gan' mlynedd yn ol, sef trwy Mallwyd a Dinas Mawddwy, a thros Fwlchygroes i'r Bala. Prawf o'r ffaith hon ydyw, fod y lleoedd hyn wedi profi nerth y diwygiad gyda'r manau cyntaf yn y Gogledd. Peth arall a all fod yn rheswm ydyw, yr erledigaeth greulawn a fu dros faith flynyddau yn Machynlleth a Dolgellau. Am Ddolgellau, dywed Robert Jones, Rhoslan, "Gorfu dros rai blynyddoedd fyned yn ddistaw i'r dref yn y nos, a chadw yr odfäon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfäoedd." Nid oedd nemawr gwell, na chystal, yn Machynlleth. Yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf cyn i'r erlid mawr liniaru yn y naill na'r llall o'r lleoedd hyn. Gan fod y ddwy dref, un ar bob congl i'r wlad rhwng y Ddwy Afon, bu yr erledigaeth chwerw fu ynddynt yn foddion i beri i'r pregethwyr gilio oddiwrthynt, ac oddiwrth y wlad cydrhyngddynt. Y mae yn aros eto i wybod pa ffordd yr elai trigolion Lleyn ac Eifionydd i Langeitho. Am drigolion y parthau hyn,, dywedir mewn dyfyniad a geir yn Nghofiant y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, gan Mr. Morris Davies, Bangor: "Os byddai yr hin yn ffafriol, hurient gwch pysgota i'w trosglwyddo o Bwllheli i