Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/500

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Fod casgliad chwarterol i gael ei wneyd at fwyd y llefarwyr a'u ceffylau-y chwarter i ddechreu Galangauaf, ac i bob aelod roi ei addewid ar y llyfr. 4. Fod y casgliad at gynal y weinidogaeth yn fisol, sef bob 12 mis-hyn yn dechreu ddechreu y flwyddyn newydd. 5. Fod cyfarfod brodyr i'w gynal yma mor agos ag y gellir i unwaith bob chwech wythnos, neu amlach os bydd achos."

Bendithiwyd yr eglwys hon â rhai swyddogion rhagorol. Bu y Parch. John Williams, Llecheiddior, yn byw am dymor yn yr ardal. Daeth yma trwy briodi Miss Margaret Jones, yr hon oedd yn byw gyda'i modryb yn Bronlywarch. Yr oedd ei briodas wedi cymeryd lle ryw gymaint o amser cyn adeiladu y capel. Yn llyfr testynau y pregethau y mae cofnodiad am dano yn pregethu ynddo cyn diwedd blwyddyn ei agoriad, ac yn ei fedyddio yn Carmel. Bu ei arosiad yn yr ardal am oddeutu naw mlynedd, yna dychwelodd yn ol yn agos i'w hen gartref yn Sir Gaernarfon. William Evans, Maesneuadd, a fu yn flaenor yn yr eglwys hon. Symudodd oddiyma i Silo. William Griffith, Caecrwth, oedd un arall a fu yn flaenor yma am dymor. David Jones, o Ffestiniog, hefyd, a ddewiswyd yn swyddog pan y bu yn aros am ychydig yn yr ardal.

Robert Griffith, Caeglas, oedd un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, ac efe oedd ei thrysorydd am dymor maith yn y dechreu. Flynyddau cyn bod eglwys yma yr oedd yn byw mewn tyddyn o eiddo y boneddwr a wrthwynebodd gymaint ar y Methodistiaid. Ryw ddiwrnod daeth y boneddwr at Robert Griffith, ac a ofynodd iddo, "Pa un a wnai di, gadael y tyddyn ai y capel ?" "Nid af fi ddim i adael fy nghrefydd er mwyn y ffarm," atebai yntau. Ymadael a'r tyddyn a wnaeth, ac aeth i fyw i Llety Wyn, Rhydymain. Ei dystiolaeth ei hun oedd, ei fod wedi manteisio llawer yn ei amgylchiadau bydol trwy y symudiad hwn. Cerddai i Lanfachreth, i'r cyfarfod eglwysig oddiyno, gan nad oedd unlle yn nes gan y Methodistiaid y pryd hwnw. Un tro, meddir, collodd y ffordd,