Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/503

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth un oedd wedi ei ddisgyblu yn yr eglwys, dywedai, "Ni allaf fi byth godi fy llaw i chwi gael eich lle yn ol oni ddeuwch yn ddirwestwr." Ymwelai pregethwr ieuanc â'r lle, yr hwn a dueddai i fod yn draethodol yn ei bregethau, ac ebe G. R. wrtho, Peidiwch a bod mor draethodol, a pheidiwch a'i gyru hi yn ei blaen yn rhy lyfn; do'wch yn nes at y bobol, a chymhwyswch fwy ar y gwirionedd at eu meddyliau." Bu G. Roberts farw Hydref 21ain, 1877, yn 86 oed.

Y mae Carmel gyda Llanfachreth fel "taith" er y flwyddyn 1870. Cyn hyny, arferai fod gyda Rhiwspardyn a Silo. Bu y gweinidogion canlynol yn gofalu am yr eglwys, am y tymor y buont mewn cysylltiad a Rhiwspardyn,—Parchn. Owen Roberts, Evan Roberts, a J. Eiddon Jones. Y mae yr eglwys yn awr o dan ofal y Parch. Hugh Roberts, Silo, er 1870. Y blaenoriaid ydynt Griffith Jones, Evan Owen, David Williams, William Jones.

SILO (Rhydymain).

"Enwyd amryw frodyr i fod yn ymddiriedolwyr i'r lle a elwir capel Pantypanel, sef John Williams, Griffith Davies, Ellis Williams, Richard Roberts, oll o Ddolgellau; John Williams, Llanfachreth; Richard Humphreys; Hugh Jones, Towyn; Griffith Roberts, Llanfachreth; John Jones, gof." Dyna y cofnodiad cyntaf ar lyfrau y Cyfarfod Misol am yr eglwys hon. Gwnaethpwyd y penderfyniad uchod Gorphenaf, 1841, pan yr oedd y Parch. Daniel Evans, Harlech, yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. Ac yn mis Tachwedd y flwyddyn hono y mae gweithred y capel wedi ei dyddio. I Carmel yr elai Methodistiaid yr ardal i addoli yn flaenorol, ac i Lanfachreth cyn hyny. Ond oherwydd pellder y ffordd i ddringo i fyny yno, ac oherwydd fod Carmel wedi myned yn rhy lawn, penderfynwyd sefydlu eglwys yma. Yr oedd y brodyr yr Annibynwyr wedi meddianu yr ardal hon er rywbryd yn y ganrif ddiweddaf, a'u capel yn Rhydymain wedi ei adeiladu