Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/505

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae y cymunwyr yn awr yn 60; a'r Ysgol Sul yn 80. Wedi ymadael oddiwrth Carmel, ac adeiladu capel cyntaf Silo, buwyd mewn penbleth fawr yn trefnu y" Daith Sabbath." Adrodda John Jones, y blaenor, yr hwn oedd yn bresenol yn yr holl ymdrafodaeth gyda'r achos o'r dechreuad, yr hanes. Cynhaliwyd cyfarfod yn Nolgellau o holl swyddogion y capelau cylchynol, yr hwn a barhaodd am ddwy awr, i drafod y mater. Yr oeddynt yn cyfarfod âg anhawsder o bob cyfeiriad. Yr adeg hon, yr oedd Llanelltyd, Carmel, a Rhiwspardyn, yn daith; a Rehoboth gyda Dolgellau. Wedi hir siarad, ebe Griffith Roberts, Tyntwll, "Wel, gan eu bod wedi cael capel yn Rhydymain, rhaid iddynt gael pregethu ynddo. Rhaid i chwi yn Nolgellau golli un bregeth un Sul yn y mis, a chwithau yn Rhiwspardyn golli un y Sul arall, Carmel y Sul arall, Llanelltyd y Sul arall, a phan y bydd pum' Sul yn y mis, rhaid i chwithau yn Rhydymain golli y Sul hwnw." Felly y cytunwyd. Yr oedd y Bontddu y pryd hwn gyda'r Abermaw. Cyn hir, addawodd y Cyfarfod Misol dipyn o gynysgaeth i Bontddu, os cymerai Llanelltyd hwy atynt. Hyny, hefyd, a fu. Yna, bu y tri lle am dymor maith gyda'u gilydd, sef Rhiwspardyn, Carmel, a Silo, a chyfamod wedi ei wneuthur rhyngddynt i bob lle dalu dau swllt yr un i'r pregethwr y Sabbath chwech swllt rhwng y tri. . Ychydig cyn y Diwygiad (1859-60), yr oedd achos crefydd yn bur isel yn y daith hon. Ac, fel yr eglurwyd mewn cysylltiad â Rhiwspardyn, i ofalu am y tri lle yma yr ymgymerodd y Cyfarfod Misol à gosod gweinidog i lafurio yn yr efengyl y pryd hwnw, yr hyn a fu yr ysgogiad mwyaf uniongyrchol i gychwyn bugeiliaeth eglwysig yn y sir. Fe gychwynodd y symudiad, yn ddiameu, yn yr iawn fan-gyda y lleoedd oedd yn wir weiniaid. Trwy gymhelliad a chynorthwy y Cyfarfod Misol, a galwad yr eglwysi, yr ymgymerodd y Parch. Owen Roberts, Ffestiniog, yn nechreu 1858, â gofalu yn benaf am dair eglwys y daith hon. Preswyliai yn nhy capel Rhiw-