Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/506

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

spardyn. O wythnos i wythnos yr oedd yn enill gafael yn serchiadau y bobl, yn aelodau a gwrandawyr, a phregethai yn fwyfwy rhagorol yn feunyddiol, fel yr ymddangosai fod cyfnod o ddefnyddioldeb anghyffredin o'i flaen. Anfynych y gwelwyd esiampl o weinidog a chynulleidfaoedd wedi ymglymu yn fwy yn eu gilydd. Bu ef a'r Parchn. Evan Roberts, a J. Eiddon Jones, yn llafurio ynglŷn a'r eglwys hon am yr un tymor ag y buont mewn cysylltiad â Rhiwspardyn. Y mae y Parch. H. Roberts wedi ymsefydlu yma yn awr er y flwyddyn 1870.

Bu yma bregethwr yn preswylio yn yr ardal am ychydig amser, ddeugain mlynedd yn ol, y Parch. John Davies. Ymadawodd oddiwrth yr Annibynwyr yn Rhydymain; daeth at y Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Medi, 1845. Ymhen oddeutu saith mlynedd ymfudodd i'r America, ac fe roddodd y Cyfarfod Misol iddo 5p. wrth gychwyn. Y mae er's blynyddau wedi ei gymeryd o'r America, fel yr hyderir, i'r wlad well. Yma y dechreuodd y Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug, bregethu, yr hwn a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Medi, 1861.

Blaenor cyntaf yr eglwys oedd William Evans, Maesneuadd. Yr oedd ef yn flaenor yn Carmel yn flaenorol, ac efe a arweiniai y ddeadell oddiyno i Rydymain. Gwr da, crefyddol, a defnyddiol gyda'r achos oedd efe. Symudodd i Lanuwchllyn. Y cyntaf a ddewiswyd ar ei ol ef oedd Mr. John Jones, yr hwn sydd eto yn aros yn flaenor yr eglwys. Tuag 1845 daeth Richard Edwards i fyw i Ddolgamedd. Bu ei ddyfodiad ef yn gaffaeliad anghyffredin, oblegid yr oedd yn wr da a duwiol, ac yn hynod o fedrus a ffyddlon. Dewiswyd ef yn fuan yn flaenor ac yn arweinydd y canu. Symudodd oddiyma i Gorris Mai 13eg, 1853, a bu farw ychydig yn ol yn Nolgellau. Gwnaeth wasanaeth mawr yn yr eglwys y tymor y bu yma. Gŵr o'r enw Robert Lewis hefyd a ddaeth i'r ardal o Abergynolwyn, a bu yn flaenor yma am beth amser, a'i fab-yn-nghyfraith yn arwain y canu. Mr. John Jones, yn awr o