Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/507

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhiwspardyn, a fu yma yn byw am flynyddoedd, ac yn wasanaethgar iawn i achos crefydd; yn arwain y canu, ac yn llenwi y swydd o flaenor am tua 10 mlynedd, hyd ei symudiad i Riwspardyn yn 1870. Trwy gymelliad y Cyfarfod Misol, oddeutu y flwyddyn 1853, deuai y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yma yn achlysurol i gadw society. Yr oedd ef yn wresog yn yr ysbryd, yn zelog, ac yn llym mewn disgyblaeth. Cofir am dano unwaith mewn achos o ddisgyblaeth yn cyhoeddi y person yn ddiarddeledig, ac yn ychwanegu, "Nid oes eisiau gofyn llais yr eglwys ar fater fel hwn sydd mor amlwg; yr wyf fi fy hun yn ddigon arno."

Hugh Pugh (Clynog). Dyn ieuanc rhagorol iawn; cyfaill! cywir, Cristion disglaer, athraw pobl ieuainc heb ei ail, a bardd o'r dosbarth blaenaf. Yr oedd yn un o feibion y pum talent, ac wrthi tra cafodd fyw yn enill pump eraill atynt. Ganwyd ef yn Gelligrafog, ardal Rhydymain, Mai 25, 1840. Heb ddim. manteision ond yr hyn a gafodd trwy gyfarfodydd llenyddol a chrefyddol yr ardal wledig yr oedd yn byw ynddi, talodd sylw i lenyddiaeth a barddoniaeth, a daeth yn fuan i'r amlwg fel llenor a bardd ei hun Enillodd gadair Eisteddfod Porthmadog, Awst 1872. Ond y llinell brydferthaf yn ei gymeriad oedd ei grefydd. Rhagorai ar ei gyfoedion fel dyn ieuanc crefyddol a defnyddiol. Dewis wyd ef yn flaenor gan eglwys Silo, Tachwedd 1870. Coleddid gobeithion am dano, pe yr estynasid ei oes, y buasai yn dyfod yn ddyn pwysig i fyd ac eglwys. Ond ymaflodd afiechyd ynddo, a bu farw Tachwedd 15, 1873, yn 33 mlwydd oed.

John Griffith, Coed-y-rhoslwyd.— Dewiswyd yntau yn flaenor yr un adeg a'i gyfaill oedd yn ieuengach nag ef. Yr oedd yn ŵr caredig, hynaws, ffyddlon, a da; parod i wneyd pobpeth gyda chrefydd, a hawdd iawn cydweithio âg ef. . Ni bu neb erioed fel blaenor mwy ei barch i weinidogion yr efengyl. Cynyddai hyd y diwedd mewn crefydd a defnyddioldeb, ac yr oedd yn wir ofalwr am yr achos. Bu ef farw yn