Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/509

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i yn eich ddhoi chi i fyny idd cythddel; gan y cythddel y ceth i chi, ac mi ddydw i yn eich ddhoi chi iddo fo yn ol'."

Daeth Owen Roberts o Sir Fon i fyw i Panteinion yn 1829, ac mewn cysylltiad a'i enw ef y cawsom yr hanes am yr ymgais cyntaf i sefydlu moddion cyson yn yr ardal. Yr oedd ef yn awyddus i sefydlu Ysgol Sul yn y Friog, ond nid oedd dim cefnogaeth i'w gael oddiwrth yr eglwysi cylchynol. Yn yr adeg hon cymerodd y Parch. Richard Jones, o'r Wern, ei blaid gyda'r cyfeillion yn Sion, i'w hanog i gynal ysgol yn y lle. Byth wedi hyny byddai gan yr hen ŵr, O. R., feddwl mawr o Richard Jones. Cynhelid Ysgol Sabbothol yma, modd bynag, yn ddilynol i hyn mewn amrywiol fanau yn yr ardal. Rhoddwyd ei hanes yn un o Gyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth ychydig amser cyn y Canmlwyddiant yn 1885. Ni ddaethpwyd hyd i'r adroddiad hwnw; ond yr ydym yn tybio nad oedd ynddo ddim o ddyddordeb neillduol y tu allan i'r ardal ei hun.

Yr oedd Mr. Owen Price, Cafnan, Cemaes, Mon, yr hwn a feddai eiddo yn yr ardal, a'r hwn a ymwelai yn achlysurol â'r lle, yn anogaethol i gyfodi capel er mwyn y trigolion oedd yma yn amddifad o foddion gras. Ac fe roddodd y tir i adeiladu yn rhodd i'r Cyfundeb. Dyddiad y cyflwyniad ydyw Chwefror 1866. Y gŵr fu a'r llaw flaenaf mewn cael pethau oddiamgylch i adeiladu y capel oedd Mr. Richard Anwyl Roberts, Einion House, Friog, yntau hefyd yn frodor o Sir Fon, yn fab i Owen Roberts, Panteinion, ac yn nai i Mr. O. Price, Cafnan. Cafodd gan gymydog iddo dynu plan y capel, ac aeth ag ef i'w ddangos i'r Cyfarfod Misol. Dyma y tro cyntaf i blan gael ei ddangos mewn Cyfarfod Misol yn flaenorol i adeiladu capel a hyn fu dechreuad yr arferiad a ddaeth wedi hyny mor gyffredin. Dangosodd y gwr ieuanc hwn lawer o ddyfalbarhad i gael pethau i derfyniad gyda y capel. Cafodd lawer o wrthwynebiad, oddiwrth yr eglwys yn Sion yn benaf, am y tybid y byddai adeiladu capel yma yn wanychdod i'r eglwys yno. Nid oedd llawer o rwyddineb yn y Cyfarfod Misol ychwaith, ond yr oedd