Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/510

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Parchn. Robert Williams, Aberdyfi, a John Griffith, Dolgellau, yn ffafriol i'r symudiad. Bob yn dipyn, addfedodd y teimlad am gael lle pwrpasol i addoli, yn yr ardal ei hun, yn gystal ag o'r tu allan iddi. Yr oedd yr awydd am weled hyn yn cael ei ddwyn i ben yn myned yn gryfach wrth weled y rheilffordd yn cael ei gwneuthur trwy y lle, ac am fod chwarel llechau yn cael ei gweithio ar y pryd yn yr ardal. Ac o'r diwedd dygwyd yr achos yn ffurfiol i Gyfarfod Misol Corris, Awst 1861. "Daeth cais o'r Friog am ganiatad i adeiladu Ysgoldy yn y lle hwnw. Anogwyd hwy i fyned ymlaen gyda chasglu addewidion tuag ato yn yr ardal, a gwneyd estimate o'r draul i'w adeiladu, a dyfod a hysbysrwydd o hyny i Gyfarfod Misol Bryncrug." Aeth peth amser wedi hyny heibio cyn dechreu ar y gwaith. Ond yn niwedd y flwyddyn 1864 agorwyd ef. Ac yn Nghyfarfod Misol Ionawr 1865 mae yr ysgoldy wedi myned yn gapel, a'r penderfyniad canlynol yn cael ei basio, "Rhoddwyd caniatad i'r cyfeillion sydd yn ymgynull yn nghapel newydd y Friog i ymffurfio yn eglwys, a rhoddwyd gofal yr eglwys, hyd nes y byddo swyddogion wedi cael eu dewis yno, ar y Parch. Owen Roberts." Yr oedd y Parch. Owen Roberts wedi ymsefydlu yn Llwyngwril er's blwyddyn a haner yn flaenorol.

Buwyd mewn cryn dipyn o drafferthion gydag adeiladu y capel ar ol dechreu ar y gwaith. Yr oedd sylfaen un talcen iddo yn ddrwg, a bu raid ei dynu i lawr. Felly aeth y gost i adeiladu lawer yn fwy nag y tybid. Yr oedd y ddyled arno y flwyddyn gyntaf ar ol ei agor yn £180. Ac er cael ychydig o gynorthwy dros rai blynyddau o'r Cyfarfod Misol, nid oedd y ddyled fawr lai ymhen deunaw mlynedd, yr hyn a ddangosai nad oedd ond ychydig yn cael wneyd yn yr ardal ei hun i'w thynu i lawr. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1883, modd bynag, addawyd punt ymhen pob punt i'r eglwys yn Saron er mwyn rhoddi symbyliad ynddi i dalu dyled y capel, ac mewn canlyniad cliriwyd y ddyled yn llwyr y flwyddyn hono. Heblaw ymdrech y cyfeillion sydd yn awr yn aros, gadawodd un