Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/512

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. J. Timothy, T. J. Stevens, John Jones, ac Ellis Williams. Bu y Parch. Owen Roberts, Llwyngwril, yn weinidog yr eglwys hon o'i dechreuad hyd ei farwolaeth. Y Parch. R. Rowlands, Llwyngwril, ydyw y gweinidog yn awr er 1882.

BETHEL, DOLGELLAU

Gosodwyd careg sylfaen capel Bethel, Medi 6, 1876, gan Eliazer Pugh, Ysw., Liverpool, yr hwn a roddodd £100 tuagat draul yr adeilad. A thraddodwyd anerchiadau ar yr achlysur gan y Parchn. Roger Edwards, David Jones, a Hugh Roberts. Un lle o addoliad oedd gan y Methodistiaid yn y dref cyn y flwyddyn hon. Ond yr oedd yr Arglwydd wedi bendithio gweinidogaeth yr efengyl, a llafurwaith ei bobl i'r fath raddau nes peri fod Salem, sef y capel mawr, fel ei gelwid, wedi myned yn rhy fach i'r gynulleidfa a ymgynullai ynddo. Yr oedd pob eisteddle o'i fewn ar osodiad er's rhai blynyddau, a chan y bu gorfod i lawer droi ymaith heb le, ystyrid fod yr achos yn cael colled. O'r diwedd daeth yr eglwys wyneb yn wyneb â'r angenrheidrwydd i helaethu lle y babell. Am beth amser bu dau syniad o flaen y frawdoliaeth, naill ai tynu i lawr yr hen adeilad ac adeiladu un mwy yn ei le, neu adeiladu capel newydd mewn cŵr arall o'r dref. Ond ar ol llawer o ymgynghori, penderfynwyd fod i ddau frawd, sef Mr. Edward Griffith, Springfield, a'r diweddar Mr. David Jones, Eldon Square, edrych allan am le mewn man arall ar y dref i godi capel newydd, a chyn bo hir agorodd Rhagluniaeth y drws. Wele ddarn o dir ar werth, yn y rhan a adwaenir wrth yr enw Cwrt- plas-yn-dref, yr hwn a brynwyd yn ddioed gan y brodyr a enwyd. Digwyddiad hynod oedd hwn, oblegid saif y llanerch yn y fan lle safai y tŷ bychan y sefydlwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf gan y Methodistiaid yn Nolgellau, a'r lle hefyd, fel y tybir, y dewiswyd y blaenoriaid neu henuriaid eglwysig cyntaf yr enwad yn y dref. Bu y frawdoliaeth yn dra doeth yn