Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/514

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chadarnhawyd yr alwad gan y Cyfarfod Misol. Ond cyn pen hir wedi hyn dechreuodd nifer y swyddogion a lleihau drachefn. Symudwyd Mr. R. O. Rees, oddiwrth ei lafur at ei wobr, am yr hwn y rhoddwyd hanes mewn cysylltiad a'r eglwys y bu yn swyddog ynddi y tymor hwyaf o'i oes; ac ymadawodd Mr. J. Meyrick Jones, i fyned i Salem.

Y gorchwyl pwysig nesaf ydoedd rhoddi oriel (gallery) ar y capel, yr hyn yr ymgymerwyd ag ef yn y flwyddyn 1884. Oriel ar un pen i'r capel a roddwyd ar ei wneuthuriad cyntaf, ond barnodd y frawdoliaeth y buasai ei hestyn i'r ddwy ochr yn ei wneuthur yn fwy cysurus, yr hyn hefyd sydd wedi dyfod i fyny yn hollol a'u disgwyliad. Cynllunydd yr oriel newydd ydoedd Mr. Richard Davies, Bangor; adeiladydd, Mr. Thomas Morris, Dolgellau. Swm y contract a'r extras—£227 5s. 7c. Sabbath, Hydref 7fed, aeth y gynulleidfa i'r capel i addoli wedi gosod yr oriel i fyny, pryd y pregethwyd gan y Parch. D. Charles Davies, M. A., Bangor. A'r Llun canlynol cynhaliwyd cyfarfod pregethu, a phregethwyd ganddo ef a'r Parch. D. Lloyd Jones, M. A., Llandinam. Yr hanes a rydd y brodyr am y cyfarfod hwn ydyw, ei fod yn dra rhagorol, cawodydd bendith wedi disgyn ar y cyfarfod gweddi y bore Sabbath, y y pregethau yn rymus a gafaelgar, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn amlwg gyda'i bobl. Swm yr addewidion at y draul o osod i fyny yr oriel newydd—116 14s. 7c. Cafwyd y gweddill trwy gasglu yn yr Ysgol Sul, fel yr oedd holl draul yr oriel wedi ei gwbl dalu erbyn diwedd 1886.

Wedi colli tri o'i swyddogion, a chan nad oedd ond tri eraill yn aros, penderfynodd yr eglwys wneuthur cais i ychwanegu at eu nifer, ac yn Ionawr 28ain, 1886, ymwelodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., a Mr. Thos. Griffith, Llanelltyd, â hi, dros y Cyfarfod Misol, i'w chynorthwyo yn y gorchwyl; a dewiswyd yn rheolaidd i'r swydd Mri. Thomas Richards, D. E. Hughes, O. D. Roberts, a W. Williams. Yn y Dyffryn, Mawrth 7fed, derbyniwyd y brodyr hyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol.