Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/519

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD III.

——————

YR YSGOL SABBOTHOL.

——————

CYNWYSIAD.—Dechreuad yr ysgol yn Llanfachreth—Rhoddi yr ysgol i fyny yn y Bontddu—Sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion—O 1838 i 1859—Mr. R. O. Rees a'r Ysgol Sul—Teyrnged o barch i Lewis Williams—Y Gymanfa Ysgolion—Swyddogion Cyfarfod Ysgolion y Cylch.

  MAE cysylltiad mor agos wedi bod rhwng yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru â chrefydd, fel y mae yn anhawdd ysgrifenu hanes crefyddol unrhyw ran o'r wlad, heb roddi lle arbenig i'r sefydliad daionus hwn. Y mae i'r sefydliad ei hanes neillduol ei hun, hefyd, ymhob rhan o'r wlad. Felly yn Nosbarth Dolgellau. Gan fod yr elfen leygol mor gref ymhlith y Methodistiaid, cafwyd cynorthwy yr elfen hono yn helaeth iawn yma, fel mewn lleoedd eraill, i hyrwyddo symudiadau crefydd ymlaen mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul. Gwnaethpwyd eisoes grybwyllion helaeth am yr ysgol wrth roddi hanes crefydd yn yr eglwysi, pan y gwelid fod ei hanes hi a hanes crefydd yn y lle yn gyd-blethedig â'u gilydd. Daeth cyfran o'i hanes yn y dosbarth hwn i mewn hefyd, o angenrheidrwydd, ynglyn â Dosbarth y Ddwy Afon. Rhoddir eto yn y benod hon y pethau pwysicaf oedd yn dal cysylltiad â hi yn y dosbarth, o'r dechreuad hyd flwyddyn y Can'mlwyddiant.

Er fod rhanbarth Dolgellau, o ran ei sefyllfa ddaearyddol, yn nes i'r Bala, cartref sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol, na dosbarthiadau eraill Gorllewin Meirionydd, eto, bu y rhanau