Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/520

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill ychydig yn fwy blaenllaw, o ran amser, i sefydlu ysgolion. Yr ydys yn barod wedi gweled yr amharodrwydd oedd yn nhref Dolgellau i ymgymeryd â'r sefydliad. A chan fod y dref yn hwyrfrydig i gychwyn, nis gellid disgwyl dim yn amgen oddiwrth y lleoedd bychain cylchynol.

Ni lwyddodd yr ysgrifenydd yn ei ymchwiliadau i gyraedd sicrwydd iddi gael ei chynal yn unrhyw fan yn y dosbarth yn flaenorol i'r flwyddyn 1800, oddieithr y crybwylliad byr am dani yn cael ei chadw dros ychydig amser yn nhref Dolgellau, gan ysgolfeistr yr Ysgol Rad, John Ellis, Abermaw, cyn i'r gwrthwynebiad iddi gyfodi oddiwrth y penaethiaid. Digon posibl, er hyny, i gychwyniad gael ei roddi iddi yn achlysurol mewn rhai manau cyn hyn. Ysgol Sul Llanfachreth ydyw y gyntaf y cafwyd gwybodaeth sicr am ei dechreuad. Un o'r hen frodyr yno, a ysgrifenodd am dani yn 1862, ac efe yn hynafgwr y flwyddyn hono" Dechreuodd yr Ysgol Sabbothol yn Llanfachreth yn y flwyddyn un fil ac wyth cant. Y person y rhoes yr Arglwydd ei Ysbryd arno i'w dechreu oedd Lewis Evans, o'r Caeglas. Aeth ef at John Jones, Penyparc, i'r ysgol ddyddiol, ac erbyn iddo fyned yno, yr oedd yr Ysgol Sabbothol yno o'i flaen; a chan iddo dderbyn yn helaeth o ysbryd ei athraw, dechreuodd yntau yr ysgol ar ol iddo ddod adref i Lanfachreth. Wrth weled anwybodaeth dybryd yr ardal—mor lleied a fedrai ddarllen—y Sabbath yn cael ei halogi—dynion o bob oedran yn chwareu pêl ar do yr eglwys ar ddydd yr Arglwydd—yn diweddu'r dydd mewn ymrafaelion, ac ymladdfeydd yn y dafarn—teimlodd yn ddwys dros ei gymydogion, a phenderfynodd roddi cychwyn ar yr hyn a welsai yn gwneuthur les mewn rhan arall o'r wlad, Gwaith mawr a gafodd ef oedd perswadio ei gyd—frodyr i fod yn gynorthwy iddo. O'r diwedd, fe ddechreuodd Sion Dafydd, Dolclochydd, ei gynorthwyo. Am lawer o amser, ni fyddai dim ond un proffeswr yn yr ysgol ar y tro. Y nesaf a gydiodd yn ngwaith yr ysgol oedd Edward Thomas, yr hwn