Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/523

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tri o honynt yn uchel ar gyfrif eu zel a'u llafur, ac nid anmhriodol y gellir eu galw yn dri chedyrn yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth—Lewis William, Llanfachreth, R. O. Rees, Dolgellau, a David Jones, Eldon Square, Dolgellau. Llafuriodd eraill ar dymhorau gydag amlygrwydd a llwyddiant mawr, nid yn unig yn eu cartrefi, ond yn y cylch cyffredinol. Mae a ganlyn yn engraifft o'r pethau fyddent yn cael sylw gan y tadau. O Gyfarfod Ysgol a gynhaliwyd yn y Bontddu, Mai. 2il, 1847, anfonwyd y cenadwriaethau canlynol adref i'r ysgolion (1). Anogwyd fod cyfarfod eglwysig i'w gynal. ymhob lle y nos Sadwrn o flaen Sabbath y Cyfarfod Ysgolion, a hwnw i'w dreulio mewn ymddiddan am yr Ysgol Sabbothol, ac os bydd amgylchiadau yn rhoi, gofaler am i'r pregethwr fydd yn cadw y Cyfarfod Ysgol fod yn hwnw. (2). Rhoddwyd anogaeth i'r athrawon i beidio rhoi gormod o waith i'r un un, ond ei ranu rhwng llawer, fel na byddo y gwaith yn ddieithr wedi i angau symud y tadau oddiwrth bwys y gwasanaeth. (3). Cymhellwyd i geisio cael gafael ar yr hen ddull o ddysgu yr Hyfforddwr, a'i adrodd yn gyhoeddus.

SEFYDLIAD CYFARFODYDD YSGOLION Y DOSBARTH.

Y mae hanes eu sefydliad wedi ei gadw mewn llythyr maith a anfonodd Lewis William at rai o frodyr Penllyn, yn y pen arall i'r sir, copi o'r hwn a gadwodd ef ymysg ei ysgrifau. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi yr hanes yn ei eiriau ef ei hun.

"DOLGELLAU,
Mai 12fed, 1818.

"Fy Anwyl Frodyr a Thadau yn yr Arglwydd yn ardaloedd y Bala,—

Yr ydwyf, oddiar ddeisyfiad rhai o honoch, yn anfon atoch am sefydliad a threfn Cyfarfod Daufisol ardaloedd Dolgellau. Y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ydoedd yn Llan-