Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/525

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egwyddori ar y mater a fyddo wedi ei roddi er y cyfarfod blaenorol.

4. Maintioli cylch y cyfarfod: 1, Dolgellau; 2, Rhiwspardyn; 3, Llanfachreth; 4, Llanelltyd; 5, Bontddu; ac fe ganiatawyd, OS byddai y Bermo, Dyffryn, a'r Gwynfryn yn dewis, y caent ddod o fewn i'r cylch, ond gwrthod y maent hyd yn hyn, oherwydd eu bod yn cadw cyfarfodydd mewn modd arall.

5. Bod y cyfarfod athrawon yn cynwys, neu yn galw am fod athrawon ac athrawesau y lle y byddo, i gyd fod ynddo; ac un neu ychwaneg o bob un o ysgolion y cylch, yn ol fel y gallo yr ysgolion eu hebgor, heb fod yn niwed i'r gwaith yn eu plith eu hunain gartref.

6. Bod ysgrifenydd i gael ei benodi a chynorthwywr iddo, i ofalu am gadw pob peth yn weddus ac mewn trefn. A'n bod yn neillduo un ymhob cyfarfod i fod yn gymedrolwr, er mwyn hwylusdod i'r gwaith.

7. Fod penod o'r Hyfforddwr i gael ei hadrodd yn gyhoeddus ymhob ysgol sydd yn perthyn i'r cylch, yn y mis cyntaf, a'r mater yr ail fis.

8. Fod i bawb ddysgu moesau da i'r ysgolheigion, a cheryddu y rhai afreolus.

9. Fod i bob ysgol ddefnyddio pob moddion yn ei gallu i gael yr holl ardal yn ddeiliaid o'r Ysgol Sul. Hyn oddiwrth eich cyd-lafurwr a'ch ufudd wasanaethwr, ond yr annheilyngaf o bawb—LEWIS WILLIAMS.

D.S. Os medraf, mi a anfonaf i chwi reolau cyfarfod ardaloedd Towyn."

Dyddordeb y llythyr uchod ydyw, ei fod yn cynwys hanes sefydliad cyntaf Cyfarfodydd Ysgolion y dosbarth. Cymerodd hyn le ymhen tua dwy flynedd a haner ar ol marw Mr. Charles. Paham yr oedd L. W. yn ei anfon at y brodyr yn ardaloedd y Bala, nid ydyw yn hysbys, yn mhellach na'r dymuniad oedd wedi dyfod oddiyno am dano. Ond y mae y llythyr yn