Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/527

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

osodid yn gymedrolwr y cyfarfod am y tro, a byddai dau neu dri o bregethwyr yn bresenol, fel y digwyddai yn ddamweiniol. Ond ceir mewn un cyfarfod, "fod i Griffith Roberts ofyn cenad y Cyfarfod Misol, i Lewis William i ofalu am fod ymhob Cyfarfod Ysgol yn y dosbarth." Dyma rai o bender- fyniadau y cyfarfodydd y cyfnod hwn: Fod dau genhadwr, o leiaf, i gael eu hanfon o bob ysgol i'r Cyfarfod Daufisol, ac un o honynt i fod yn flaenor y lle." "Rhoddwyd caniatad i newid arolygwyr mewn ysgolion os byddai amgylchiadau yn gofyn, a bod hyny i gael ei wneyd trwy ganiatad a chymorth yr eglwys yn y lle hwnw." "Fod Thos. Jones, Llanelltyd,.. J. Thos. Jones, Dolgellau, Griffith Davies, Ellis Williams, Wm. Griffith, a Richard Roberts, i fyned i gadw cyfarfodydd athrawon i Rhiwspardyn." Llefara y penderfyniadau drostynt eu hunain. Hydref 9fed, 1842, cynhaliwyd Cymanfa y Plant, perthynol i'r cylch, yn Nolgellau, pryd y cymerwyd rhan gyhoeddus gan y Parchn. Robert Owen, Nefyn; Robert Evans, Llanidloes; Robert Williams, Aberdyfi; a Thos. Evans, Sir Fynwy.

Bu y Parch. John Williams, Dolgellau, wedi hyny o'r America, yn dilyn y cyfarfodydd fel holwyddorwr; ond yn 1844, yr ydym yn ei gael yn rhoi y swydd i fyny, a'r Parch. Richard Roberts yn cymeryd ei le. O'r flwyddyn hon hyd 1859, nid oes cofnodion wedi eu cadw, ac felly, y mae bwlch o 15 mlynedd heb ddim gwybodaeth sicr o hanes yr ysgol yn y cylch. Y Parch. Thos. Williams, Dyffryn, oedd yr holwyddorwr am ran fawr o'r bwlch hwn. Yr oedd ef yn ŵr hynod o gymwys at y cyfryw orchwyl. Yn nghyfarfod blynyddol y Dosbarth, a gynhaliwyd yn Nolgellau, Ebrill 26ain, 1857, "cydnabyddwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mr. Thomas Williams, Dyffryn, ar ei ymadawiad o'i swydd fel pregethwr y Dosbarth." Etholwyd yn ei le y Parch. W. Davies, Llanelltyd, yr hwn, ni a dybiwn, a barhaodd yn y swydd hyd nes iddo. ymadael i Lanegryn. Yn yr un cyfarfod, dewiswyd David