Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/528

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Dolgellau, yn ysgrifenydd. Bu ef o wasanaeth mawr i ysgolion y cylch—yn llenwi y swydd o ysgrifenydd a llywydd, ac yn ymweled â'r ysgolion lawer gwaith. Griffith Roberts, Tyntwll, Griffith Davies, a Thomas Jones, Dolgellau, a fuont amlwg gyda gwaith yr ysgol. Bu Mr. Edward Griffith, Springfield, yn ymweled â'r ysgolion bedair gwaith, a llu o leygwyr da eraill na chawsom eu henwau.

MR. R. O. REES A'R YSGOL SUL.

Da y gŵyr yr oes hon am wasanaeth y gwr llafurus hwn i'r Ysgol Sabbothol. Yn y flwyddyn 1859[1], dechreuwyd cadw cofnodion rheolaidd o weithrediadau Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth, mewn llyfr trwchus, wedi ei rwymo yn gryf. Eisoes y mae y cofnod-lyfr hwn yn dra gwerthfawr, a daw yn fwy felly eto. Yn yr amser a ddaw, ceir yn hwn doraeth o wybodaeth am waith yr Ysgol Sul yn y rhan hon o'r sir. I ysbryd aiddgar Mr. R. O. Rees, yn ddiau, y mae y drychfeddwl am y llyfr i'w briodoli. Dechreua y cofnodion yn ei lawysgrif ef ei hun, gydag adroddiad o "Hanes yr ymweliad ag ysgolion y dosbarth, yn Haf 1859." Amser a fu, yr oedd yr ymweliad yn rhan bwysig o waith yr ysgol yn y cylch hwn. Nodid dau, neu dri, neu bedwar, i ymweled â'r ysgolion bob blwyddyn, ac yn nghyfarfod blynyddol yr ysgolion, adroddiad o'r ymweliad fyddai un o'r pethau dynai fwyaf o sylw. Yn amser ysgrifenyddiaeth Mr. Williams, Ivy House, penodid personau i ymweled a'r ysgolion yn fynych bob dau fis. Ond y mae yr ymweliad y cyfeirir ato, yn meddu dyddordeb arbenig; gadawodd gymaint o argraff ar y dosbarth, fel y mae yn aml yn cael son am dano yn awr, ymhen yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Tra bo y tô presenol o bobl mewn oedran yn aros, bydd adgofion hyfryd yn para am ymweliad 1859. Y

  1. Mr. W. Williams, Swyddfa'r Goleuad, yr hwn a fu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am dymor maith y blynyddoedd diweddaf, yn garedig a anfonodd yr hanes o'r flwyddyn 1859 hyd y Can'mlwyddiant.