Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/529

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn hon, fef y cofir, yr ymwelwyd â Chymru gan un o'r diwygiadau mwyaf grymus, ac un o ddibenion arbenig yr ymweliad oedd, ymholi ynghylch ei effeithiau, a cheisio cael allan i ba raddau yr oedd yr Arglwydd yn dwyn oddiamgylch amcanion ei deyrnas trwy yr Ysgol Sul. I Mr. Rees ei hun yr ymddiriedwyd trefnu a dwyn ymlaen yr ymweliad, a phenodwyd Mr. Robert Owen, gôf, Llanfachreth, yn gydymaith iddo. Ymddengys i Mr. Rees gymell Lewis Williams, Llanfachreth, oedd y pryd hwnw wedi cyraedd oedran patriarchaidd, a Mr. Joseph Roberts, Dolgellau, i'w ganlyn fel cynorthwywyr; ond i'r blaenaf o'r ddau ddioddef cymaint oddiwrthi lafur y Sabbath cyntaf, fel nad anturiodd yn mhellach ar y daith. Yr oedd cynllun a gwaith yr ymweliad yn dra nodweddiadol o'r cynlluniwr; dangosai ddyn o annibyniaeth meddwl i dori llwybr iddo ei hun, gwahanol hollol i'r un a deithir gan ddynion yn gyffredin. Gyda'r amcan o gael allan wir sefyllfa y sefydliad, a'r lle oedd iddo ynglyn â'r diwygiad, yr oedd ganddo restr lled faith o gwestiynau i'w gofyn ymhob ysgol. Digon tebyg y buasai ambell un yn petruso gofyn y cwestiynau, ond yr oedd yr ymroddiad a'r zel a daflai Mr. Rees i'w waith yn gwneyd yr oll yn briodol iddo ef.

Y flwyddyn y gwnaed yr ymweliad hwn, perthynai i'r dosbarth 16 o ysgolion, ac 1368 o ysgolheigion, gan gynwys yr athrawon. Yr oedd 93 o aelodau eglwysig heb broffesu eu hunain yn aelodau o'r Ysgol Sul. Nodir amryw ffeithiau dyddorol, er dangos yr effaith oedd y diwygiad wedi gael ar y wlad.

Allan o'r 921 oeddynt yn bresenol yn y gwahanol ysgolion ar Sabbothau yr ymweliad, wedi tynu allan y plant nas gallent ddarllen, yr oedd 650 yn tystio iddynt wneyd ymarferiad, i raddau mwy neu lai, o ddarllen y Beibl iddynt eu hunain yn ystod yr wythnos. Yr oedd yn agos i 800 o'r 921 yn proffesu llwyrymwrthodiad â phob diodydd meddwol. Yr oedd y dystiolaeth i ddylanwad y diwygiad ar foesau yr ardaloedd yn uchel, yr ymhyfrydiad mewn gwagedd a phechod am