Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r diwedd, daeth goleuni i'r ardaloedd a fuont mor hir yn y tywyllwch. Ac fel yr iachawdwriaeth ei hun, fe ddaeth o'r tu allan i'r ardaloedd eu hunain; cyrhaeddodd yma o'r tu hwnt i afon Abermaw. O fewn tair milldir i'r Abermaw, yn agos i'r ffordd yr eir oddiyno i Ddolgellau, y mae ffermdy o'r enw Maes-yr-afallen. Yno yr arferai yr Annibynwyr bregethu, a'r Methodistiaid hefyd yn achlysurol. Daeth y son am y pregethu oddiyno i ardal Llanfihangel, yn agos i Abergynolwyn. Crybwyllwyd eisoes mai William Hugh, Llechwedd, a ddeffrowyd i feddwl am fater ei enaid gyntaf yn y cwmpasoedd hyn. Yr oedd ef wedi ei eni a'i fagu yn Maesyllan, ac yr oedd o tan rhyw fath o argyhoeddiad crefyddol er pan oedd yn llanc ieuanc yn bugeilio defaid ei dad. Dywedai wrth ei fab, rywbryd cyn diwedd ei oes, y byddai ofn a braw yn meddianu ei feddwl mewn perthynas i'w gyflwr a'i fater tragwyddol y pryd hyny, nes yr oedd yn rhyfedd ganddo fod ei synwyrau heb eu dyrysu, ac nas mynai brofi eu cyffelyb drachefn er meddianu yr holl fyd. Tra yr ydoedd yn y stad meddwl hwn, neu, yn hytrach, wedi i'r teimlad hwn fyned heibio, clybuwyd yn ardal Llanfihangel fod pregethu yn Maes-yr-afallen, ac, meddai un John Lewis wrth William Hugh, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wed'yn." Cytunodd W. Hugh i fyned; ac ar ryw foreu Sabbath, cyfeiriodd ei gamrau tua Maes-yr-afallen. Y diwrnod hwnw, Benjamin Evans, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanuwllyn, oedd yno yn pregethu. Mae yn lled eglur mai dyma y bregeth, Ymneillduol gyntaf a glywodd W. Hugh, ac yr oedd yn synu wrth weled dull plaen a dirodres yr addoliad. "Yr oeddwn yn golygu," meddai, "bod i wr o ddull a gwisg gyffredin esgyn i ben 'stôl a siarad â'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Aeth odfa y boreu heibio heb iddo ddeall yr un gair o honi, na gwybod ynghylch pa beth yr ydoedd. Diau fod yr olygfa ddieithr o'i amgylch, tŷ anedd yn gapel, a stôl