Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/531

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgu yr Hyfforddwr i'w côf erbyn Cymanfa Mehefin, 1880, a rhoddwyd i bob un y wobr addawedig, sef Cysondeb y Pedair Efengyl, yn llwyr a chyfan ar draul Mr. Rees ei hun. Golygai hyn, yn ol pris y llyfr yn y farchnad, 62p. 10s. Dechreuodd drachefn ysgrifenu adroddiad manwl am yr ymweliad hwn, ond galwyd ef ei hun at ei wobr cyn iddo lwyr orphen. Yr hyn a ysgrifenwyd, pa fodd bynag, fe'i hargraffwyd ar draul y ddiweddar Mrs. Williams, Ivy House, ac fe'i rhanwyd yn rhad rhwng y gwahanol ysgolion. Yn ymadawiad Mr. Rees, collwyd un o'r cyfeillion ffyddlonaf a feddai yr Ysgol Sabbothol, ac un y bydd ei goffadwriaeth yn fyw wedi i'r rhai a gydoesent âg ef oll gilio o'r golwg.

TEYRNGED O BARCH I LEWIS WILLIAM.

Yn nghoflyfr y Dosbarth, ceir crybwyllion mynych am yr hen batriarch L. William, Llanfachreth, tad Ysgolion Sabbothol y rhan hon o'r wlad. Yn hen wr egwan, parhaodd i ddilyn y Cyfarfodydd Ysgolion, ac i hyrwyddo y gwaith ymlaen a'i anogaethau syml a gwresog, nes pallodd ei nerth. Dyddorol iawn ydyw gwybod beth oedd syniad pobl ei wlad am dano pan fu farw. Mewn cynulliad yn Llanfachreth, Ebrill 27ain, 1862, yr ydym yn cael y cofnodiad a ganlyn— "Anfonodd yr hen frawd Lewis William ei gofion cynhesaf at yr ysgolion, a dymunai ar fod eu deiliaid yn meddu ysbryd Caleb a Josuah, i fod yn benderfynol i fyned ymlaen. Dymunodd y cyfarfod ddangos ei gydymdeimlad dwysaf â'r hen frawd trwy law Mr. Richard Williams." Dyma y crybwylliad olaf a geir am dano yn fyw. Yn nghyfarfod y 9fed o Fedi, yr un flwyddyn, gwnaethpwyd sylw coffadwriaethol am dano, "fel sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn y cylch," ac yn yr un cyfarfod, cynygiwyd gwobr am farwnad iddo, a phenderfynwyd cael cofgolofn ar ei fedd. Yn hanes cyfarfod blynyddol yr ysgolion, gynhaliwyd yn Nolgellau, Mai 17eg, 1863, yr ydym yn cael y cofnodiad canlynol: "Dylem eich coffhau