Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/533

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a pherthynas uniongyrchol rhyngddi â gwaith beunyddiol yr ysgolion. Cynhaliwyd ynddi y flwyddyn uchod ddau gyfarfod —y prydnhawn a'r hwyr. Y llywyddion oeddynt, y Parchn. D. Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw, a J. Davies, Bontddu. Yr holwyr yn y Gymanfa gyntaf hon oeddynt, y ddau a enwyd, a'r Parchn. J. Evans (I. D. Ffraid), O. Roberts, Llanfachreth, ac E. Peters, Bala. Cyffelyb, o ran trefn, oedd y Cymanfaoedd am y ddwy flynedd ddilynol. Ond yn 1874, newidiwyd a gwellhawyd y dull o'u cynal, trwy wneyd tri chyfarfod; y boreu a'r prydnhawn i holi, a'r cyfarfod hwyrol i gyd—ganu y tonau y byddis wedi ymarfer â hwy. Mae y drefn hon wedi ei dilyn hyd yn bresenol, a cheir ei bod yn ateb y diben yn rhagorol. Mae Cymanfa Ysgolion Dosbarth Dolgellau wedi parhau i enill mewn nerth ac effeithiolrwydd, ac er's blynyddoedd bellach, yn cael ei hystyried yn un o'r Cymanfaoedd goreu a geir mewn unrhyw ran o'r wlad, ac hyd yn nod yn esiampl i'w hefelychu. I'r dosbarth ei hun—i Fethodistiaid y dosbarth, o leiaf, y mae wedi dyfod yn brif ddigwyddiad y flwyddyn, gan nad beth arall a gymer le, ac y mae yn sicr nas gellir mesur ei gwerth fel symbyliad i lafur trwy yr holl ysgolion. Ar y cyntaf, tueddid i roddi gormod o le ynddi i fan gystadleuon mewn darllen, adrodd, a chanu. Ond y mae hyn wedi ei roddi heibio yn llwyr, a'r unig beth yn meddu dim tuedd gystadleuol ynglyn a'r Gymanfa yn awr yw yr arholiadau ysgrifenedig a gynhelir ar ei chyfer yn y materion y byddis yn holi ynddynt. Heb leihau gwir ddyddordeb y cyfarfodydd, y mae cau y mân gystadleuon allan o honynt wedi bod yn help i roddi iddynt urddas a dwysder cyfarfodydd crefyddol.

Heblaw yr holi a'r canu, defnyddir y Gymanfa fel mantais i wobrwyo y rhai fyddant wedi dysgu allan yn ystod y flwyddyn. Fel y crybwyllwyd, y mae wedi bod yn arferiad i roddi Cysondeb y Pedair Efengyl yn wobr am ddysgu yr Hyfforddwr er's amryw flynyddau; ac er's blynyddau yn