Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/534

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynt na hyny, arferid rhoddi y Llyfr Hymnau yn wobr am ddysgu y Rhodd Mam. Ac y mae hyn wedi peri fod mwy o'r Llyfr Hymnau i'w weled yn nwylaw ieuenctyd y cynulleidfaoedd, a mwy o'r Cysondeb y Pedair Efengyl yn y teuluoedd, yn y dosbarth hwn, nag odid nemawr ran o'r wlad. Ynglyn â hyn, byddai yn briodol crybwyll ffaith arall deilwng o'i chofnodi. Er's rhai blynyddau, ychwanegir at y gwobrau a roddir ddydd y Cymanfa gan gyflwyniad ugeiniau o lyfrau buddiol i'r rhai ieuengaf am ffyddlondeb yn dilyn yr ysgol. Rhoddir y gwobrwyon hyn yn gwbl gan Mr. R. Jones, Shop Newydd, Dolgellau, yr hwn a wasanaethodd y dosbarth fel llywydd y Cyfarfod Ysgolion o'r flwyddyn 1875 hyd ddiwedd 1887. Oddiwrtho ef y tarddodd y cynllun, ac efe yn gwbl sydd yn ei weithio allan ar ei draul ei hun. Yn mhellach, hefyd, gellir dweyd ei fod ef trwy ei haelioni a'i weithgarwch gyda'r Ysgol Sul yn esiampl i'w efelychu. Am y tair blynedd ar ddeg olynol yr etholwyd ef i fod yn llywydd y Cyfarfod Ysgolion, gwasanaethodd ei swydd gydag ymroddiad digymar, ac nid arbedodd unrhyw lafur i wneyd y gwaith a ymddiriedwyd iddo yn effeithiol. Y ffrwyth a welir trwy y gwobrwyon hyn a rydd efe yn flynyddol i'r rhai fyddo wedi bod yn bresenol gyda chysondeb am y flwyddyn, ydyw cynydd sefydlog yn nghyfartaledd presenoldeb ymhlith y dosbarth ieuanc o ddeiliaid yr ysgolion.

Mae y gwaith a wneir ddydd y Gymanfa wedi cynyddu cymaint y blynyddau diweddaf, fel yr ydys o dan angenrheidrwydd i gynal dau gyfarfod yr un adeg, foreu a phrydnhawn, y naill yn Salem a'r llall yn Bethel. Y fath ydyw poblogrwydd y Gymanfa hefyd, erbyn hyn, fel y byddai y mwyaf o'r ddau gapel yn rhy fychan i gynal y cyfarfodydd fel cynt. Arferid cael brodyr o'r tuallan i'r cylch i holi yn y Gymanfa y blynyddoedd cyntaf, ond er's llawer o amser yn awr, dibynir yn gwbl ar weinidogion y Dosbarth yn unig. Yr un modd gyda'r canu, arferai y diweddar Ieuan Gwyllt wasanaethu fel arwein-