Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/535

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd am amryw flynyddau wedi sefydlu y Gymanfa, ond er's amser bellach, gwneir y gwaith hwn gan Mr. O. O. Roberts, ysgolfeistr, gyda llwyddiant a chymeradwyaeth mawr. mae y cyfarfod hwyrol, a dreulir yn unig i ganu, y mwyaf poblogaidd o unrhyw fath a gynhelir yn Nolgellau yn ystod y flwyddyn. Mae canu y Gymanfa, meddir, wedi gwella a pherffeithio cymaint flwyddyn ar ol blwyddyn, nes erbyn hyn y deil gymhariaeth a'r goreu a geir mewn unrhyw le yn Ngogledd Cymru.

Mae y Gymanfa wedi cario dylanwad daionus ar y Cyfarfodydd Daufisol, ac ar yr ysgolion yn gyffredinol, er peri mwy o weithgarwch ymhob cylch. Cedwir hi yn y golwg fel prif ddigwyddiad y flwyddyn, ac fel amser nodedig i ddangos ffrwyth llafur y flwyddyn. Rhoddodd yr hen bererin Lewis William, Llanfachreth, urddas ar ffyddlondeb i'r Ysgol Sul yn y rhanbarth hwn o'r wlad. Ac mewn canlyniad i'r yni a dderbynir oddiwrth y Gymanfa, mae y Cyfarfod Ysgolion mewn blynyddoedd diweddar wedi gwella llawer yn ei drefn, ac wedi adenill i raddau y poblogrwydd y tueddai amser a fu i'w golli. Ychwanegwyd at y Dosbarth, ysgol Sion yn 1846, ac ysgol Llwyngwril yn 1886. Y ffigyrau canlynol a ddangos- ant sefyllfa yr Ysgol Sul am y tri ugain mlynedd diweddaf :-

Nifer yr ysgolion Athrawon Deiliaid
1826 9 123 793
1860 14 162 1298
1887 18 200 1490

SWYDDOGION CYFARFOD YSGOLION Y CYLCH.

Er y flwyddyn 1859, pryd y dechreuwyd cadw cyfrifon rheolaidd, mae y personau canlynol wedi gwasanaethu fel llyw- yddion y Cyfarfod Ysgolion:—Mri. David Evans, Rehoboth; Evan Ellis, Hendre; Elias Williams, Llanelltyd; John Parry, Bontddu; Ellis Jones, Sion; David Jones, Dolgellau; Richard Mills, Dolgellau; Richard Jones, Dolgellau. Ysgrifenydd-