Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/537

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.

GWYL Y CAN'MLWYDDIANT, 1885.

  I chynyrchodd Gwyl Can'mlwyddiant yr Ysgol Sul fwy o frwdfrydedd yn un rhan o Gymru nag a wnaeth trwy Ddosbarth Dolgellau. Trefnwyd i'r wyl gael ei chynal yma yr un diwrnod a'r Gymanfa Flynyddol, yr hyn oedd ar y 4ydd o Fehefin, 1885. Mae y Gymanfa Ysgolion yn wyl gan y Methodistiaid y Dosbarth hwn bob blwyddyn, a daw deiliaid yr ysgolion ynghyd i Ddolgellau o bob cwm, ac oddiar bob bryn ddiwrnod ei chynhaliad. Ond yr oedd y zel a'r brwdfrydedd a ddangoswyd ar y dydd o Fehefin y flwyddyn a nodwyd yn beth nas gellir ei gynyrchu gan achlysuron cyffredin, ac yn beth na welwyd yn y rhan hon o'r wlad er y dydd y sylfaenwyd yr ysgol.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf y Gymanfa yn ol y dull arferol, am haner awr wedi deg y boreu-y Dosbarth Cano! a'r Dosbarth Hynaf yn Salem, a'r plant yn Bethel. Llywyddid y cyfarfod yn Salem gan Mr David Evans, o ysgol Rehoboth; a'r un yn Bethel gan Mr. Evan Jones, o Ysgol Sion. Hol- wyddorwyd y Dosbarth Canol gan y Parch. Hugh Roberts, Siloh, oddiar Actau xvi-xxviii; y Dosbarth Hynaf, gan y Parch. R. Roberts, Dolgellau, oddiar Heb. iv. 14-x; a'r plant yn Bethel gan y Parch. John Davies, Bontddu, a'r Parch. T. J. Thomas, Dolgellau, yn Hanes Iesu Grist. Yr oedd y ddau gapel eang yn llawn, a Bethel yn gymaint felly, nes gwneyd yn anhawdd dwyn y gwaith ymlaen gyda'r plant gan y tyndra. Am haner awr wedi un ymgasglodd yr holl ysgolion yn rhifo 17-ynghyd yn yr heol o flaen capel Salem, lle y ffurfiwyd yn orymdaith i gerdded trwy y dref.