Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/539

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ganlynol i hyn, canwyd, ar y don "Tanybryn," yr emyn godidog,

Wedi hyn gorymdeithiwyd yn ol tua chapel Salem, lle yr oedd cyfarfod y prydnhawn i gael ei gynal. Yn yr ysgwâr eang o flaen y Farchnadfa, ar y ffordd, canwyd eto, ar y dôn "Old Derby," yr hen emyn,

"O agor fy llygaid i weled," &c.

Arweinid y canu yn yr orymdaith gan Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, a chymerid gofal y trefniadau gan Mr. Richard Jones, llywydd y Cyfarfod Ysgolion, a Mr. Edward Williams, argraffydd.

Yr oedd y cyfarfod yn Salem, yr hwn a ddechreuid yn fuan wedi dau o'r gloch, yn gyfarfod i'r plant yn gyfangwbl. Llyw— yddid gan Mr. Richard Jones, Shop Newydd, a dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. R. Roberts, Dolgellau, ar ol canu "O hapus awr" gan y plant, o dan arweiniad Mr. J. O. Jones, ysgolfeistr, Arthog. Treuliwyd y cyfarfod hwn yn gwbl i gyflwyno gwobrwyon a thystysgrifau i'r aelodau o'r gwahanol ysgolion oeddynt wedi eu henill. Rhoddwyd 31 o dystysgrifau a gwobrwyon i blant am ddysgu y Rhodd Mam neu yr Addysg Mam, deg o wobrwyon—Cysondeb y Pedair Efengyl —a thystysgrifau am ddysgu yr Hyfforddwr, a nifer o wobrwyon a thystysgrifau i rai oeddynt wedi myned trwy arholiad yn llwyddianus mewn cerddoriaeth. Yr oedd yr ymdrech a wnaethid gyda dysgu yr Hyfforddwr a'r Rhodd Mam y blynyddoedd blaenorol wedi peri nad oedd ymdrech neillduol yn y cyfeiriad hwn yn beth i'w ddisgwyl flwyddyn y Can'— mlwyddiant.

Yn nechreu Ionawr, yr un flwyddyn, yr oedd Mr. Richard Jones wedi anfon hysbysiad i holl ysgolion y Dosbarth y byddai yn rhoddi Hanes Dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, gan y Parch. T. Levi, i bob darllenwr o dan 15