Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn bulpud, wedi myned â'i feddwl y tro cyntaf hwnw. Yr oedd yr un gwr yn pregethu drachefn y prydnhawn, a'i destyn y tro hwn oedd Rhuf. i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu." Yr oedd yr odfa hon yn un pur wahanol i deimlad William Hugh; tywynodd y goleuni, a theimlodd yntau nerth yr efengyl. Edrychai ar y tro hwn fel cyfnod hynod yn ei fywyd, a dywedai, Os oedd ganddo grefydd, mai mewn canlyniad i'w fynediad i Maes-yr-afallen y tro hwn y cafodd afael arni, a chofiodd y bregeth hono tra fu byw ar y ddaear. Cymerodd hyn le rywbryd cyn y flwyddyn 1777, oblegid y flwyddyn hono ymadawodd Benjamin Evans o Lanuwllyn i fyned i weinidogaethu i'r Deheudir.

Bu am rai blynyddau ar ol hyn heb ymuno â chrefydd. Ond o hyn allan elai i wrando yr efengyl bellder mawr o ffordd. Cerddodd rai gweithiau ar hyd nos Sadwrn i'r Bala, i wrando dwy bregeth ar y Sabbath, ac adref yn ol ar hyd y nos drachefn ar ol y ddwy bregeth, pellder, rhwng myn'd a dyfod, o 45 o filldiroedd. Aeth ef a'i gyfaill, John Lewis, un boreu Sabbath i Ddolgellau, gan hyderu fod yno rywun yn pregethu. Ond cyfarfod eglwysig oedd yno y boreu hwnw. Wedi aros i'r gwasanaeth dechreuol fyned drosodd, a deall mai cyfarfod neillduol oedd yno, aethant allan, gan feddwl wynebu tuag adref. Ond cyn iddynt fyned neppell o'r lle, wele genad yn eu goddiweddyd, ac yn eu hysbysu fod rhyddid iddynt aros os ewyllysient. Dychwelasant yn ol, a chawsant dderbyniad croesawgar i fod yn aelodau, a chyn hir cawsant y fraint o gyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda'r gynulleidfa fechan yn Nolgellau.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru (T. 580) mai yn y flwyddyn 1780 y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y bröydd hyn. Feallai nad yw yn hawdd bod yn sicr am y flwyddyn, ond mae yn lled sicr ei bod oddeutu y flwyddyn hon. Y pregethwr oedd yr hybarch Robert Jones,