Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/540

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlwydd oed a fynychai yr ysgol bob Sabbath, o'r 4ydd o Ionawr hyd y Sabbath nesaf i'r Gymanfa; ac addawai wobr gyfaddas i rai dan 15 mlwydd oed nas gallent ddarllen, a fyddent bresenol ugain o Sabbothau yn ystod yr un tymor. Daeth 139 ymlaen yn y cyfarfod hwn i dderbyn y wobr flaenaf, a 67 i dderbyn yr ail wobr.

Dygwyd Gwyl y Can'mlwyddiant yn y Dosbarth hwn i derfyniad gyda chyfarfod o ganu cynulleidfaol a fu yn destyn i gyfeirio ato gyda theimladau hyfryd a hiraethus yn hir wedi iddo fyned heibio. Llywydd y cyfarfod hwyrol hwn oedd Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, ac arweinydd y canu, Mr. O. O. Roberts, ysgolfeistr Ysgol y Bwrdd. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. T. J. Thomas, Dolgellau. Canwyd y tonau cyn- alleidfaol a ganlyn: Freyburg,' 'Presburg,' 'Vienna,' "Sion,' 'Terah,' 'Regent Square,' 'Moab,' a 'Llanilar.' Canwyd, hefyd, Anthem y Can'mlwyddiant,' o waith Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Yr oedd y cantorion, y rhai a lanwent oriel y capel hyd y caffent le, wedi eu meddianu'n llwyr gan ysbryd y diwrnod. Nid yn aml y clywyd canu mwy effeithiol, ac yr oedd yr eneiniad amlwg oedd ar y cyfarfod drwyddo oll yn ei wneyd yn derfyniad addas i Wyl y Can'mlwyddiant, mewn rhan o'r wlad sydd wedi derbyn cymaint o fendithion trwy yr Ysgol Sabbothol.