Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoslan, a'r lle y pregethwyd hi, medd yr hanes, oedd "ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn." Prin hefyd fod "heol" yn Abergynolwyn yr adeg foreuol hon. Yr oedd yno bentref o ryw fath, a diau mai yn nghanol y pentref y pregethwyd y bregeth. Digon posibl fod a fynai W. Hugh a John Lewis â dwyn y pregethwr cyntaf i Abergynolwyn, oblegid hwy ydynt y ddau y ceir eu hanes yn myned i wrando i leoedd eraill cyn hyn. Yr oedd Robert Jones, Rhoslan, yn arferol a dyfod i bregethu i'r Dyffryn a Dolgellau yn flaenorol, ac felly fe wyddai ryw gymaint o hanes y wlad. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes am y bregeth nodedig hon:—

"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, erlidgar ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn wynebu arnynt, canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr erioed yn unlle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliadwy. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd llonyddwch, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gwr hwn fab-yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gwr dieithr yno heddyw; 'ac,' ebe efe 'ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae yn sicr y byddant yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch o'i swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith."—Drych yr Amseroedd, tudalen 72.

Mae yn lled eglur oddiwrth rediad yr hanes hwn mai y