Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr ei hun sydd yn ei adrodd. Gellir casglu hefyd oddiwrth yr hanes mai hon oedd y bregeth gyntaf, neu un o'r rhai cyntaf a bregethwyd yn y cylchoedd, gan y dywedir nad oedd odid un o'r gwrandawyr a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn unlle. Yn fuan ar ol y tro hwn, daeth eraill i'r ardal i bregethu. Ac yn ychwanegol at y waredigaeth ragluniaethol a gafodd Robert Jones, Rhoslan, hysbysir am dro arall cyffelyb. Yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu ynghyd eto, a golwg ymladdgar a gwyllt arnynt, i geisio rhwystro y pregethWr. Ond pan ddaeth yr amser i ddechreu, a'r cynhyrfwyr yn ymbarotoi i'r frwydr, daeth un John Howell, o Nant-y-cae-bach, ymlaen, a dywedai, Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn ddistaw a llonydd, ynte droi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi" Bu hyn yn foddion i'w tawelu, a dywedir y bu yno dawelwch bob tro wedi hyn. Nid oedd y John Howell hwn yn proffesu crefydd ar y pryd, nac wedi profi dim o ddylanwad y gair ar ei feddwl. Nid oedd wedi tueddu at grefydd o gwbl, ond tybiai nad oedd dim niwed yn y gwaith o bregethu. Ar ol hyn, pa fodd bynag, daeth yn broffeswr ac yn Gristion da, yn flaenor blaenllaw, ac yn weithgar gydag achos crefydd yn Abergynolwyn am lawer o flynyddoedd. Cyn pen hir wedi hyn, dechreuodd y pregethu ddyfod yn amlach yn yr ardal hon, a'r ardaloedd cylchynol. Mae y crybwyllion hyn am Abergynolwyn yn bur sicr o fod yn gywir, oblegid cafwyd hwy o enau W. Hugh ei hun, ac y maent wedi eu corffori yn hanes ei fywyd, yr hwn a ysgrifenwyd, fel y tybir, gan ei fab, mor bell yn ol a'r flwyddyn 1830.

Mewn cysylltiad â'r dechreuad bychan hwn yn Abergynolwyn, yr ydym yn cael hefyd ddechreuad y gwaith da yn ardal Corris, a hyny drwy gyfryngiad amlwg Rhagluniaeth. Yr oedd gwraig o'r enw Jane Roberts wedi symud i fyw tua'r pryd hwn i Rugog, ffermdy yn nghwr uchaf ardal Corris. Cyn hyny preswyliai yn Nannau, gerllaw Dolgellau, ac yr oedd wedi clywed, tra yr oedd yno, fod pregethu mewn tŷ