Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anedd o'r enw Maes-yr-afallen, yn agos i'r Abermaw, a syrthiodd awydd arni i glywed y pregethu. "Ond rhag i neb ddychmygu i ba le yr oedd yn myned, hi a lanwodd sach â gwair, ac a'i gosododd dani ar geffyl, ac aeth felly i Maes-yr-afallen." Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hen weinidog Methodistaidd adnabyddus, John Evans, o'r Bala. Bu y bregeth, yn ol pob tebyg, yn foddion tröedigaeth iddi, a chafodd y fath flas ar wrando fel nas gallai beidio myned i wrando drachefn. Ond ar ol iddi symud i Gorris, nid oedd pregethu yn yr ardal hono. Ond clywodd fod rhyw bregethwr i ddyfod i Abergynolwyn, o fewn 5 neu 6 milldir i'w chartref. Penderfynodd fyned yno, a chymhellodd ei merch, Elizabeth, yr hon oedd newydd briodi Dafydd Humphrey, Abercorris, i ddyfod ynghyda'i gwr gyda hi i'r odfa. Cafodd Dafydd Humphrey les ysbrydol i'w enaid drwy y bregeth hono, ac yn. y fan a'r lle gwnaeth "gyfamod a'r Gwr, i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra fyddai ar y ddaear." Mor rhyfedd ydyw ffordd Rhagluniaeth! O Maes-yr-afallen y daethai y tân dros ochr Cader Idris i ardal Abergynolwyn gyntaf; ac o'r un lle yr aethai gwreichion. heibio i balasdy gwych Nannau, gerllaw Dolgellau, a dygwyd hwy drachefn i Rugog yn ardal Corris, i fod yn foddion i gyneu tanllwyth o dân yno! Dyma y wawr wedi tori ar Gorris. Ac y mae yr hanes am y modd yr aeth yr achos. rhagddo yno i'w gael yn Methodistiaeth Cymru:—

"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd Dafydd Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny.' Cynhelid yr odfa hon ar fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi anfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed