Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy ardal uchod ar y cwr agosaf i afon Abermaw, dros yr hon y cludid y newyddion da gan y saint oeddynt wedi eu hachub o'r tuhwnt i'r afon hon. Rhydd pen-hanesydd y Cyfundeb, y diweddar Barch. J. Hughes, Liverpool, y dystiolaeth a ganlyn:—

"Nid hawdd ydyw penderfynu ymha le y dechreuodd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon; ac yn wir anhawdd ydyw gwybod, weithiau, gyda manyldra, am amseriad ei ddechreuad mewn ardal, oherwydd fod yr amgylchiadau a roddes yr ysgogiad cyntaf yn fynych yn guddiedig; a chan mor ddisylw oeddynt ynddynt eu hunain, ni chroniclwyd hwynt gan neb. Yr oedd gwawr Methodistiaeth, mewn llawer iawn o fanau, yn gyffelyb i wawr y boreu, yn araf ei ddyfodiad, ac yn ansicr ai lygedyn ei gychwyniad. Ymddengys gradd o'r ansicrwydd hwn mewn perthynas i'r ardaloedd a enwyd uchod." Teimlai ef ei hun anhawsder, a theimlai y gwyr da a anfonodd yr hanesion iddo o'r parthau hyn, pwy bynag oeddynt, yr un anhawsder, er eu bod hwy yn byw ddeugain mlynedd yn nes i'r amser y cymerodd yr amgylchiadau le nag yr ydym ni yn awr. Nid dyfod i wybod amseriad dechreuad pregethu, i'n tyb ni, ydyw y mwyaf anhawdd, ond dyfod i wybod am yr amser yn fanwl y ffurfiwyd yr eglwysi. Yr oedd rhyw gymaint o bregethu yn dechreu yn agos iawn i'r un amser yn yr holl ardaloedd, ond fe gymerwyd rhai blynyddau, wedi hyny, cyn y ffurfiwyd yr eglwysi. Ysgrifena John Jones, Penyparc, yn 1832, am ddechreuad crefydd yn y wlad: "Nid oedd fawr o bregethu efengylaidd yn yr holl fro y pryd hwnw [cyn 1790], oddieithr gan ambell un o bregethwyr y Methodistiaid, y rhai, megis ar ddamwain, a ddeuent heibio; ac ni byddai hyny, ar y dechreu, ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn." Yr oedd dyfodiad y pregethwyr heibio mor anaml yn y dechreu yn peri fod yr eglwysi yn hir yn cael eu ffurfio. Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ei hun, a rydd y goleuni goreu am y modd yr oedd y tân yn cerdded. Y mae y dyfyniad canlynol yn dangos pa fodd yr oedd pethau o