Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Morris, wrth ddychwelyd o races ceffylau Machynlleth. Oddeutu Gwyl Mihangel y flwyddyn hono yr aeth i'r Abermaw i wrando ar Mr. Williams, o Ledrod, ac y daeth i wybod fod gobaith iddo gael ei achub; ac yn fuan wedi hyn, cyn diwedd yr un flwyddyn, mae'n debyg, ymunodd â chymdeithas eglwysig y Methodistiaid yn yr Abermaw. Y casgliad, gan hyny, ydyw nad oedd y crefyddwyr ddim wedi ymffurfio yn eglwys yn un lle yn nes na'r Abermaw, yn niwedd y flwyddyn 1789, onide buasai Lewis Morris yn bwrw ei goelbren yn eu mysg. Er hyny, nid ydyw hyn yn ddigon o sicrwydd. Ond yn fuan iawn ar ol hyn, y flwyddyn ganlynol, fel y gellir tybio, ffurfiwyd eglwys yn Llwyngwril. Mae yn deilwng o sylw hefyd fod yr achos yn cydgychwyn yn y Bwlch, mewn derbyn pregethu, ac ymffurfio yn eglwys. Er fod y ddwy ardal ya lled agos i'w gilydd, yr oedd yr achos ar wahan yn y ddau le, o'r cychwyn cyntaf. Yn agos i'r un amser hefyd y dechreuodd yn Towyn, Bryncrug, ac Aberdyfi. "Oddeutu yr amser hwn," meddai Lewis Morris, "y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb a'r sefydlogrwydd o hono i'r ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, Mawddach, a Dyfi. . . . . . Argyhoeddwyd un gwr cyfrifol o'r enw John Vaughan, o'r Tonfanau, ynghyd a'i wraig, ac agorasant eu drws i'r efengyl (yn y Bwlch); parhaodd Mr. Vaughan i redeg yr yrfa yn ffyddlon iawn hyd y diwedd, a'i weddw ar ei ol a fu yn garedig a haelionus iawn at yr achos crefyddol yn Nghefncamberth. Mr. Lewis Jones, o Benyparc, yn moreu pregethu yn yr ardal (Bryncrug) a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw (1846), fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau achos Iesu Grist. Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws hwn yn agored hyd heddyw. Mr. Harri Jones, Nant-y-mynach, a'i wraig, yn fuan wedi hyn a agorasant eu drws i achos Iesu Grist, ac y mae y drws hwn